Tag Archives: ysgrifennu

Cofnod wadd: Lowri Cooke ar ei phrofiadau blogio

Blog Lowri Cooke

Blog Lowri Cooke

Roedd 2012 yn flwyddyn fawr i mi: roedd gen i gyfrol ar y gweill- teithlyfr o’r enw Canllaw Bach Caerdydd, orthopedist ac ro’n i’n ymwybodol mai ymateb ambell un fyddai “pwy ddiawl yw Lowri Cooke i sgwennu am brifddinas Cymru?!” Nawr, cystitis ro’n i’n gwbod yn iawn pam ges i’r comisiwn i sgrifennu’r gyfrol- yn ferch o’r ddinas, roeddwn i wedi cynhyrchu seinlun llwyddianus o’r ddinas ar gyfer BBC Radio Cymru ac wedi sgrifennu erthyglau ar Y Twll oedd wedi apelio at wasg Gomer, yn teithio’n rhyngwladol, yn nyts am Gaerdydd, ac wastad wedi teimlo bod angen canllaw chwaethus a hollol gyfoes am fy ninas. Ond sut oedd cyfathrebu hynny heb aros naw mis i gael cywasgu’r cyfan mewn datganiad bach pitw i’r wasg ar achlysur y cyhoeddi? Roedd y syniad o flog teithio/ bwyd/ celf wedi apelio ers tro-yn enwedig ar ol dychwelyd o deithiau i Efrog Newydd a Melbourne ar fy liwt fy hun gyda tua 2000 o luniau ar yr iPhone, ond doedd gen i ddim syniad sut oedd gwynebu’r fath gymhlethdod cyfoes, felly roedd yn well gen i anwybyddu’r cnonnyn bach aflonnydd hwnnw.

Fodd bynnag, ar droad 2012 nes i rywbeth dwl- nes i wrando ar fy ngreddf a chysylltu a chyfaill, yr arch- flogiwr Carl Morris, a threfnu gwers blogio yn gynnar ym mis Ionawr. Daeth draw am gwpwl o oriau un bore, ac roedd e’n amyneddgar iawn ond fe wyddwn i ym mer fy esgyrn fod y syniad o flogio’n rheolaidd y tu hwnt i mi- wedi’r cyfan, roedd gen i ddigon ar fy mhlat yn barod, gan gynnwys sgrifennu’r gyfrol! Gath e fowlen o gawl moron a choriander gen i a gawson ni glonc dros ginio cyn ffarwelio a dyma fi’n teimlo, reit, dyna fi di archwilio’r peth a dio jyst ddim i fi. Chwarae teg i Carl fe gysylltodd ymhen pythefnos a holi sut hwyl o’n i’n cael gyda’r blog. Roedd e’n gwybod yn iawn nad oeddwn i wedi gwneud dim byd am y peth gan ei fod e’n meddu ar gyfrinair Merch y Ddinas. Awgrymodd e fy mod i’n galw heibio ei gartref e yn Grangetown am refresher bach- felly es i draw gyda thec-awe o Mrs Madhavs Riverside fel diolch.

Nawr, dwi ddim yn gwbod sut, ond dros samosas a bajhis bendigedig a phaned o de, nath pethe glicio yn fy mhen, ac wrth i Carl ymarfer ei set DJ ar gyfer y penwythnos yng nghornel bella’r stafell, dechreuais i flogbostio. Yr hyn oedd o gymorth oedd fy storfa anferthol o luniau Caerdydd a gymerais i fel rhan o fy ymchwil i fy llyfr. Unwaith i mi ddechre roedd hi’n anodd stopio, ac am tua 2 y bore bu’n rhaid troi am adre. Ond ro’n i dal yn ormod o scaredy-cat i gyhoeddi’r blogiau cyntaf tan fod gen i rhyw hanner dwsin ohonynt yn barod, er mwyn i bobol gael syniad o amrywiaeth. Pan wnes i gyhoeddi’r blogiau cyntaf hynny ar Ionawr 31 2011 ges i ymateb yn syth bin, oedd yn hynod hyfryd a thu hwnt o gadarnhaol!

Fy mwriad i o’r cychwyn oedd nid dwyn oddi wrth y gyfrol ond creu ychydig o buzz, fel petawn i’n cynnig brathiadau bach a la “optional DVD extras” ac ysgrifennu mewn ffordd mwy hamddeneol. Gyda’r gyfrol, ro’n i’n sgrifennu o hyd braich, ac yn gwbl ddi-duedd; gyda’r blog, gallen i fod yn fi fy hun a mynegi fy mwrlwm/ brwdfrydedd/ boncyrsrwydd naturiol.

O fewn ychydig wythnosau daeth wefan BBC Cylchgrawn i ben- roeddwn i wedi bod yn gyfranwraig gyson ers rhyw 5 mlynedd fel adolygwraig ffilm a theatr. Ro’n i’n gutted, a dweud y lleia, na fyddai modd cyhoeddi adolygiadau o’r fath yn yr iaith Gymraeg a bum yn pendroni a ddyliwn i ddechrau ail flog yn canolbwyntio’n llwyr ar adolygiadau. Ymateb Carl i hynny, oedd “errr, Lowri, pam na wnei di jyst gyhoeddi nhw ar Merch y Ddinas?”, ac felly dyna a wnes i. Sylweddolais hefyd y gallai’r blog fod yn siop ffenest i enghreifftiau eraill o’m sgrifennu a’m diddordebau personol- fy erthyglau Celf i Barn, fy adolygiadau bwytai i gylchgrawn Red Handed, rhyseitiau coginio, a hyd yn oed blogbostiau am fy nheithio rhyngwaldol o dan y teitl “Dihangfa o’r Ddinas”.

Yr hyn sy’n bisar ydy dydw i erioed di bod yn un i ddarllen blogs: nid allan o amharch neu snobyddiaeth, does gen i wir ddim amser i wneud rhwng popeth yn fy mywyd- a coeliwch neu beidio, mae gen i fywyd y tu hwnt i’r blog! Do, fe ddipiais i fewn i ambell ffefryn fel Pictwrs flynyddoedd yn ol, a mi fydda i’n troi at Hitfix neu Roger Ebert am adolygiadau teledu/ffilm Americanaidd pan dwi’n profi darllediad dwi wir eisiau ei archwilio, ond mewn gwirionedd, mae gen i ormod ar fy mhlat fel ma hi. Yr hyn sy’n gwneud synnwyr perffaith i mi ydy pan mae pobol yn dweud wrtha i, “dwi ddim yn darllen blogs, ond dwi yn darllen Merch y Ddinas” . Dwi’n credu bod Merch y Ddinas yn gweithio fel blog achos es i ddim ati i geisio efelychu unrhywun, nes i jyst greu beth oedd yn teimlo’n hollol naturiol i mi, ac mi ddatblygodd yn organig iawn o’r cychwyn. Dydw i ddim y ffotograffydd gorau, a coeliwch neu beidio, ar adegau dwi’n dal i deimlo fel Luddite llwyr- dwi eto i wynebu rhoi fideo i fyny.

Tra’n clirio fy hen stafell wely yng nghartre fy rhieni’n ddiweddar, nes i luchio miloedd o gylchgronau o gyfnod fy arddegau- o Premiere, Empire, Sky, The Face, Elle, Vogue, Harpers Bazaar, The Clothes Show ac ati (ac ati), a dwi’n meddwl, rhywle dros y blynydoedd mae na olygydd cylchgrawn wedi bod yn llechu tu fewn- a dwi’n meddwl bod fy mlog yn debcach i gylchgrawn amrywiol ar-lein na “dyddiadur” un pwnc yn unig.

Mae nifer wedi holi ers y cychwyn, “why don’t you blog in English too?” ac i fod yn hollol onest, tasen i’n cael fy nhalu i wneud , mi fydden i’n gwneud yn llawen. Fel mae pethe, ma mywyd i’n bonkers o brysur, a dwi’n sgrifennu yn y Gymraeg am zero dineros oherwydd dwi’n teimlo bod RHAID i rywun wneud- yn enwedig ers diflaniad wefan fel BBC Cylchgrawn, ond yn bwysicach, am fy mod i EISIAU gwneud.

Nawr, tasen i’n syrthio’n feichiog yfory ac yn darganfod mod i’n disgwyl trilliaid, mae’n bur debyg y bydde’n i’n blogio ar raddfa gryn dipyn llai ymhen naw mis. Wedi dweud hynny, mae na le i flog yn y Gymraeg am wynebu’r her o fagu trilliaid- ond falle y bydden i’n dewis amrywio’r blog rhyw fymryn gyda’r ryseitiau sy’n taro deuddeg gyda Mafon Mefus a Moronen Cooke neu adolygiad o sesiwn ffilm Carry On Screaming i rieni a phlantos, neu’r lle gorau yng Nghaerdydd i weini babyccinos. Pwy a wyr… rwy’n datgan fy hawlfraint ar y syniad hwnnw! Ond dwi’n gwbod tra y bydda i’n dal i esblygu yna dyna fydd hanes Merch y Ddinas fyd. Felly daliwch ati i ddarllen os oes da chi bum munud sbar dros baned.