Tag Archives: y we

150 cofnod ar linell amser Hanes y We Gymraeg!

Wrth gyrraedd 150 cofnod mae’n gyfle cystal ag unrhyw un i ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect ac am roi cymaint o ddeunydd diddorol yno. Mae wedi mynd ymhell tu hwnt i ngobeithion i ar y dechrau a dwi’n siwr bydd yn datblygu eto yn y dyfodol.

Mae’r llinell amser wedi cau i gyfraniadau newydd am y tro, herpes ond os oes unrhywun ar dân eisiau ychwanegu rhywbeth yna dwi’n hapus i’w derbyn drwy ebost / cyfrwng arall a’u gosod nhw fy hun. Mae’r un peth yn wir am gywiriadau neu olygiadau – cysylltwch ac fe wna’i eu newid.

[iframe  frameborder=”0″ style=”border-width:0;” id=”tl-timeline-iframe” width=”960″ height=”600″ src=”http://www.tiki-toki.com/timeline/embed/84932/3660970837/”]

Cyflwyniad am y prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol – sleidiau

Mi roddais i ddarlith awr-ginio ddoe yn y Llyfrgell Genedlaethol, page Aberystwyth, mind yn seiliedig ar rai canfyddiadau sy’n codi i fi o’r prosiect hwn. Mi gefais groeso yno a dwi’n gobeithio bod y cyflwyniad wedi bod rhoi rhyw fath o snapshot o weithgareddau 20 mlynedd a mwy o ddefnydd y gymraeg ar y we. Mae hynny’n lot o amser a lot o hanes, physician ac fel gyda’r llinell mae yna rybudd iechyd nad yw hwn yn hollol ddiffiniol, bod posibiliad o feithiau heb dystiolaeth lawn eto, a bod peryg o fod yn llawer rhy arwynebol.

Wedi dweud hynny, mae’n werth dechrau rhywle ac mi o’n i’n awyddus i weld os oedd na batrymau, themau neu gyfnodau’n codi o edrych ar y llinell amser ar ei hyd.

Mi gafodd fideo ohono ei recordio gan y Llyfrgell a dwi’n gobeithio y bydd y recordiad llawn ar gael yn fuan er mwyn bod y sleidiau yma’n gwneud synnwyr. Fel y mae’n nhw, does dim lot o wybodaeth heblaw am strwythr y ddarlith, ond meddwl y dylwn eu rhoi arlein beth bynnag.

Owain Owain yn rhagweld dylanwad y we ym 1969

y dydd olaf - Owain OwainO’r dudalen Wicipedia:

Roedd yn wyddonydd niwclear yn y 50au, viagra a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis ‘Gwennol y Gofod’, sickness a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis ‘Gwledydd Prydain‘ yn hytrach na ‘Phrydain’. Roedd yn golofnydd ‘Nodion Gwyddonol’ Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu’n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear.

Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: Yn syml, mae’r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi’n bosibl cofnodi’r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy’r oesau mewn un lle, mewn modd sy’n galluogi unrhyw unigolyn – o’i gartref ei hun er enghraifft – archebu a derbyn unrhyw ran o’r wybodaeth honno…

Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu’r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach – yn llawer pwysicach – na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y “cof”.

Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy’n codi o brofiad, gyda’r disgybl, yn hytrach na’r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr – yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy’n gyfystyr a gwir addysg.

Gellir gweld yr erthygl lawn yma.

Hanes y we a hanes y rhyngrwyd?

Naw wfft i fyd modern a gwe'r internet - llun: dafyddt ar Flickr

Naw wfft i fyd modern a gwe’r internet – llun: dafyddt ar Flickr

Mae rhai’n dweud bod y we’n gwneud i hoedledd ein sylw grebachu’n llai a llai nes ein bod ni ond yn gallu canolbwyntio ar fyrbrydau cyfryngol, rheumatologist a dwi’n sicr yn cael fy hun yn neidio o un peth i’r llall heb dalu sylw i’r un yn llawn. Yn yr un modd dwi’n mynd yn ofnadwy o gyffrous ar ddechrau prosiect newydd a’n ffeindio’r cloi a thynnu’r edefynnau amrywiol at ei gilydd yn un cwlwm taclus ar y diwedd yn llawer anoddach.

Ond deuparth gwaith ac ati, felly dros y dyddiau diwethaf dwi wedi bod yn cynllunio ychydig ar sut mae’r prosiect hanes torfol yma am weithio yn ogystal â’r ffiniau, neu ddim, a fyddai ar ei sgôp.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y we a’r rhyngrwyd i’r rhan fwyaf o bobol?

Un agwedd dwi wedi bod yn cwestiynu ydi’r hyn sydd yn ‘we’ a’r hyn sydd yn ‘rhyngrwyd’ a’r hyn sydd yn cael ei ddeall gan y cyhoedd fel y ‘sdwff sydd yn digwydd ar-lein neu ar ddyfeisiau digidol’. Dwi’n cael y teimlad, ac wedi darllen, gweld a chlywed nfer fawr o bobol (gan gynnwys fi fy hun!), yn cymysgu’r we efo’r rhyngrwyd.

Mae’r WWW sydd wedi ei nodweddu gan ddogfennau wedi eu cysylltu drwy hyperdestun a’u cyfeirio drwy URIs wedi ei adeiladu ar sylfaen y rhyngrwyd, sydd yn system rhwydweithio pecynnau data digidol a gafodd ei ddatblygu ar ddiwedd y 1960au, ymhell cyn bod y we’n syniad ym mhen Tim Berners-Lee. Mae systemau rhwydweithiol digidol eraill yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid ar y we, fel ebost, systemau ffôn VoIP, teledu IP, a rhannu data a ffeiliau peer to peer. Mae apiau ffônau symudol hefyd yn drysu’r ffin rhwng beth sy’n digwydd drwy borwr a beth sydd ddim.

Gellid dweud felly’n weddol sicr taw ‘y we’ mae llawer iawn o bobol yn ei ddefnyddio erbyn hyn fel llawfer am y rhan fwyaf o’r sdwff dydd i ddydd sy’n digwydd gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae o hefyd yn enw lot mwy bachog na rhyngrwyd, yn anffodus i bendantiaid a dyfeiswyr y rhyngrwyd.

Dyna pam dwi wedi penderfynu ei alw’n ‘hanes y we Gymraeg’ oherwydd dwi’n teimlo ei fod yn  cyfathrebu’r syniad yn gliriach na hanes y rhyngrwyd. Cawn weld os dwi’n iawn. Wrth gwrs, mae llawer o bethau pwysig sydd wedi digwydd yn Gymraeg ar-lein fel rhestrau ebost, gr?piau newyddion a byrddau bwletin wedi digwydd ar y rhyngrwyd yn hytrach nac ar y we, felly mae’r rhain yn rhan o’r sgôp hefyd.

Pa gyfnod amser i’w ddewis?

Yr ail beth yw bod dechrau’r we ym 1991 yn rhoi man cychwyn sydd ddim yn rhy bell yn ôl. Mae sawl un eisoes wedi gwneud gwaith llawer dyfnach ar y cyfnod cynnar hwn o’r Gymraeg ar y rhyngrwyd na fydd yn cael ei wneud yn y prosiect hwn  a byddaf yn rhoi cofnod blog am y rheiny nes mlaen er mwyn rhoi gofod sylw priodol iddyn nhw. Mae tua 20 mlynedd yn gyfnod lle mae llawer wedi digwydd a’r gallu i gael mynediad at y rhyngrwyd wedi tyfu’n fwy ac yn gyflymach nag y byddai unrhywun wedi disgwyl ar ddechrau’r 90au. Serch hynny, mae yna fylchau digidol pendant yn bodoli, gyda band-llydan cyflymder uchel yn cael ei ddarparu i ddinasoedd tra bod rhai pentrefi’n parhau i fethu cael cyswllt digon cyflym i wneud y rhan fwyaf o bethau fel llwytho lluniau, a gwylio fideo y mae llawer iawn yn ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn.

Felly 1991 tan ddiwedd 2012 – beth ddigwyddodd i’r Gymraeg ar y rhyngrwyd a’r we yn ystod y cyfnod hwn?

Ychwanegwch y darnau o’r hanes fel rydych chi’n ei gweld hi.