Tag Archives: hanes

150 cofnod ar linell amser Hanes y We Gymraeg!

Wrth gyrraedd 150 cofnod mae’n gyfle cystal ag unrhyw un i ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect ac am roi cymaint o ddeunydd diddorol yno. Mae wedi mynd ymhell tu hwnt i ngobeithion i ar y dechrau a dwi’n siwr bydd yn datblygu eto yn y dyfodol.

Mae’r llinell amser wedi cau i gyfraniadau newydd am y tro, herpes ond os oes unrhywun ar dân eisiau ychwanegu rhywbeth yna dwi’n hapus i’w derbyn drwy ebost / cyfrwng arall a’u gosod nhw fy hun. Mae’r un peth yn wir am gywiriadau neu olygiadau – cysylltwch ac fe wna’i eu newid.

[iframe  frameborder=”0″ style=”border-width:0;” id=”tl-timeline-iframe” width=”960″ height=”600″ src=”http://www.tiki-toki.com/timeline/embed/84932/3660970837/”]

Cyflwyniad am y prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol – sleidiau

Mi roddais i ddarlith awr-ginio ddoe yn y Llyfrgell Genedlaethol, page Aberystwyth, mind yn seiliedig ar rai canfyddiadau sy’n codi i fi o’r prosiect hwn. Mi gefais groeso yno a dwi’n gobeithio bod y cyflwyniad wedi bod rhoi rhyw fath o snapshot o weithgareddau 20 mlynedd a mwy o ddefnydd y gymraeg ar y we. Mae hynny’n lot o amser a lot o hanes, physician ac fel gyda’r llinell mae yna rybudd iechyd nad yw hwn yn hollol ddiffiniol, bod posibiliad o feithiau heb dystiolaeth lawn eto, a bod peryg o fod yn llawer rhy arwynebol.

Wedi dweud hynny, mae’n werth dechrau rhywle ac mi o’n i’n awyddus i weld os oedd na batrymau, themau neu gyfnodau’n codi o edrych ar y llinell amser ar ei hyd.

Mi gafodd fideo ohono ei recordio gan y Llyfrgell a dwi’n gobeithio y bydd y recordiad llawn ar gael yn fuan er mwyn bod y sleidiau yma’n gwneud synnwyr. Fel y mae’n nhw, does dim lot o wybodaeth heblaw am strwythr y ddarlith, ond meddwl y dylwn eu rhoi arlein beth bynnag.

Owain Owain yn rhagweld dylanwad y we ym 1969

y dydd olaf - Owain OwainO’r dudalen Wicipedia:

Roedd yn wyddonydd niwclear yn y 50au, viagra a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis ‘Gwennol y Gofod’, sickness a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis ‘Gwledydd Prydain‘ yn hytrach na ‘Phrydain’. Roedd yn golofnydd ‘Nodion Gwyddonol’ Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu’n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear.

Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: Yn syml, mae’r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi’n bosibl cofnodi’r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy’r oesau mewn un lle, mewn modd sy’n galluogi unrhyw unigolyn – o’i gartref ei hun er enghraifft – archebu a derbyn unrhyw ran o’r wybodaeth honno…

Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu’r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach – yn llawer pwysicach – na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y “cof”.

Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy’n codi o brofiad, gyda’r disgybl, yn hytrach na’r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr – yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy’n gyfystyr a gwir addysg.

Gellir gweld yr erthygl lawn yma.

Y broblem ‘cyntaf yn y Gymraeg’ a sut i’w datrys

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Drwy gael llinell amser, caries mae hefyd yn anorfod ein bod ni’n mynd i gael nifer o gofnodion sydd yn nodi’r ‘[enw gwefan yma] cyntaf yn y Gymraeg’.

Does dim yn bod ar hyn, sildenafil ac mae’n bwysig eu cofnodi, yn enwedig pan oedden nhw wir o flaen amser neu wedi gosod seiliau i nifer fawr o bethau ddaeth ar eu holau.

Ond y broblem efallai yw bod popeth a ddigwyddodd wedyn ar y wefan yn dueddol o gael ei anwybyddu. Gyda rhywbeth mor gyfoethog â fforymau neu wefannau deinamig prysur sydd wedi eu diweddaru’n aml, sut mae osgoi hyn?

Straeon Personol Unigolion

Dwi’n credu bod angen i unigolion ddweud eu straeon – felly dyma ofyn i chi ddweud eich stori chi o wefan benodol.

  • Sut mae gwefannau Cymraeg neu rwydweithiau Cymraeg arlein wedi effeithio ar eich bywyd chi mewn rhyw ffordd?
  • Beth oedd yno wnaeth eich ysgogi chi i wneud rhywbeth y tu allan i fyd y wefan honno? 

Yn y bôn sut mae eich profiadau ar wefannau Cymraeg wedi siapio eich bywyd?

Rhowch stori yn y sylwadau yma, ar Twitter/Facebook, neu os am ysgrifennu cofnod hirach anfonwch destun ataf i a gallaf greu cofnod blog i chi.

Yr her i gofnodi hanes y We Gymraeg

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, sildenafil 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwn nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng Nghymru i gofnodi twf y We Gymraeg, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

Efallai bod hwn yn ffordd i chi, i ni fel defnyddwyr y we, ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org. Yn ogystal, mae erthgyl gradd ddiddorol iawn gan Robert Andrews o tua 1998/99 o’r enw ‘Pobl y Net: What Happens to Welsh National Identity in the New Global Media Community’.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.

Hanes pwy sy’n gywir? A phwy sydd am gywiro?

Llinell Amser SgrinlunNid yw hwn yn ymgais i ysgrifennu hanes gynhwysfawr, visit a dydw i ddim yn hanesydd, ascariasis ond beth os mae rhywun yn anghytuno gyda ffeithiau cofnod mae rhywun arall wedi ei roi ar y llinell amser? Sut mae modd nodi hynny neu ei addasu?

Mae hyn yn codi llu o gwestiynau a dim un yn hawdd. Oherwydd natur y feddalwedd, does dim modd iddo fod fel wiki, lle gellir golygu erthygl nes ei fod yn cyrraedd at rhyw fath o lefel o ‘ffeithioldeb’ sydd yn dderbyniol neu bod yna stalemate o ran y ddadl.

Dim ond fi, golygydd y wefan all olygu cofnod gan rywun arall, ond dwi ddim yn mynd i fod yn awdurdod ar lawer o’r hyn mae pobol yn ei roi yno.

Efallai taw un ffordd ryff o ddelio gyda hyn ydi trwy gyfeirio o’r cofnod at gofnod ar y blog hwn sydd yn trafod y pwnc, neu efallai at dudalen ar Wicipedia er mwyn galluogi ei drafod fel wiki.

Dwi ddim chwaith fel golygydd am weld camgymeriadau ffeithiol ym mhob achos felly mae angen ffordd o nodi hynny mewn ffordd addas. Beth fyddai hynny?

Beth ydych chi’n ei feddwl?

Ddylai hyn ddim atal rhywun rhag cyfrannu achos bydd pob cyfraniad yn werthfawr, hyd yn oed, neu’n arbennig felly, os mae’n dechrau dadl!