Tag Archives: Cyfrwng

Ymestyn dechrau’r llinell amser i 1989

Dwi wedi penderfynu ymestyn dechrau’r llinell amser i gynnwys beth mae Rhys Jones yn ystyried yn eni trafodaethau Cymraeg ar-lein, cost sef y neges Gymraeg gyntaf sydd wedi ei chadw yn archifau Google o drafodaethau Usenet.

NEGES GYMRAEG GYNTAF AR USENET

Yn ôl ymchwil Rhys Jones ar ddechreuadau’r Gymraeg arlein, orthopedist y neges gyntaf Gymraeg sy’n bosib ei darganfod drwy archifau Google erbyn hyn yw’r neges hon gan Rennie Bidgood o AT&T Bell Labs: “I need someone to help me translate the following: Yn nwfn swyn ei fynwes O Caf lonydd caf le i…

Dyma sut mae Rhys Jones yn disgrifio Usenet a geni trafodaethau Cymraeg ar-lein:

“Ceid gogwydd Americanaidd i’r trafodaethau cynnar hefyd. Nifer fechan o brifysgolion a sefydliadau ymchwil oedd â chysylltiad ag Usenet yn y Deyrnas Unedig, ac ychydig iawn o rwydweithiau preifat oeddyn cynnig cysylltiad ag Usenet i ddefnyddwyr cartref neu fusnes. […] Ystyrir Usenet gan Marc Smith yn ‘collection of cyberspaces’, disgrifiad sy’n pwysleisio pa mor unigryw yw pob un o’r grwpiau newyddion, ac yn y dirwedd hon y ganwyd trafodaethau Cymraeg ar-lein.”

Cyfeirnod:

Jones, R.J., (2010). ‘Cilfachau Electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, Cyfrol 7. Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd.

Onid oes rhywbeth ysgytwol yn y gwrthgyferbyniad damweiniol hwn o enedigaeth/marwolaeth a’r hen/newydd?

Mae’r englyn yn rhan o englyn ehangach gan Ben Bowen o’i awdl ‘Y Diwygiwr’ oedd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod 1901, ond gafodd “ei ddefnyddio ar gofebau rhyfel a beddfeini”.

Dyma’r englyn gyda’r ddwy linell gyntaf:

Ymdawelaf, mae dwylo Duw ei hun
Danaf ymhob cyffro;
Yn nwfn swyn ei fynwes O
Caf lonydd, caf le i huno.

Ewch i’r gofnod lawn ar y llinell amser.

Yr her i gofnodi hanes y We Gymraeg

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, sildenafil 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwn nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng Nghymru i gofnodi twf y We Gymraeg, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

Efallai bod hwn yn ffordd i chi, i ni fel defnyddwyr y we, ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org. Yn ogystal, mae erthgyl gradd ddiddorol iawn gan Robert Andrews o tua 1998/99 o’r enw ‘Pobl y Net: What Happens to Welsh National Identity in the New Global Media Community’.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.