Owain Owain yn rhagweld dylanwad y we ym 1969

y dydd olaf - Owain OwainO’r dudalen Wicipedia:

Roedd yn wyddonydd niwclear yn y 50au, viagra a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis ‘Gwennol y Gofod’, sickness a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis ‘Gwledydd Prydain‘ yn hytrach na ‘Phrydain’. Roedd yn golofnydd ‘Nodion Gwyddonol’ Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu’n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear.

Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: Yn syml, mae’r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi’n bosibl cofnodi’r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy’r oesau mewn un lle, mewn modd sy’n galluogi unrhyw unigolyn – o’i gartref ei hun er enghraifft – archebu a derbyn unrhyw ran o’r wybodaeth honno…

Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu’r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach – yn llawer pwysicach – na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y “cof”.

Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy’n codi o brofiad, gyda’r disgybl, yn hytrach na’r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr – yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy’n gyfystyr a gwir addysg.

Gellir gweld yr erthygl lawn yma.

Deja Vu ar bori’r we

Efallai bod chi borwyr cynnar y we â diddordeb yng ngwefan http://www.dejavu.org/

Gallwch chi bori’r Uwchdraffordd Gwybodaeth fel ei bod hi’n ’93.

This site is devoted to the history of the web. Not only will we remind you by telling what the web was like. Our main attraction is a timemachine that brings you back to any web era as defined by the browser version predominant at that time. For it is a browser emulator. If you are one of the early pioneers of the web, hepatitis we believe that you will “feel again you” as we say in Sweden. Get a colourful flashback (or déjà vu, treat as they say in France) of those happy days when the Net was all painted in Mosaic grey.

(diolch am y tip off Dafydd!)

Atgoffwr os bu angen…”Mae’r rhyngrwyd yn fregus”

Cymraeg ar y weWedi dod ar draws hwn ar flog Dafydd Vaughan neithiwr ac fe wnaeth daro nodyn o weld faint o wefannau sydd wedi diflannu neu ond wedi eu rhannol archifo:

At some point in the last few weeks a lot of the things I worked on back in Consumer Focus disappeared from the internet. The sites were turned off and the URLs redirected to the organisation homepage.

There is no explanation or notice explaining why you end up on that homepage and you would be forgiven for thinking that the sites and tools never existed. Every link ever made to any of those things are now broken.

It’s strange to see two years of your professional life just disappear. I can’t really blame Consumer Focus for this – they no longer have anyone with the skills or knowledge to keep the things running (and the organisation will close entirely very soon).

Unfortunately, advice this happens all too frequently online. Websites are rebuilt, more about things are moved, stuff is deleted without explanation or warning. Bits of our digital history are just lost forever. The internet is fragile.

Keeping everything operating and the same for the rest of eternity isn’t realistic.

Dwi’n falch felly bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi mynd ati i archifo peth deunydd o’r we Gymraeg a Chymreig ers 2003, a hefyd bod erthyglau newyddion Cymraeg BBC Cymru’r Byd dal arlein. Mae archive.org yn help, ond mae’n amherffaith iawn gan anaml roi mwy na thudalen flaen a honno heb ddelweddau.

Efallai taw un gwers o’r ymarfer hwn ydi bod angen i ni fynd ati i sicrhau bod archifo deunydd arlein yn cael digon o sylw ac er nad oes modd casglu’r cyfan, bod yna le teilwng i archifwyr digidol. Er mor effemeral mae’r pethau ma’n teimlo weithiau, mae na werth mewn cadw detholiad er mwyn i ni allu ceisio deall yn well wrth edrych nôl, dysgu o’r gorffennol.

Croesi’r hanner can cofnod – gyrhaeddwn ni gant?

Erbyn hyn mae 60 cofnod ar y llinell amser. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Sgrinlun Hanes y We 29 Ion

Sgrinlun Hanes y We 29 Ion

Mae yna wythnos ar ôl i chi roi eich hanesyn chi ar y llinell. Ar y 6ed o Chwefror bydd y llinell yn cau i gofnodion torfol newydd.

I roi eich hanesyn chi yno ar gof a chadw ewch i’r llinell amser, otolaryngologist ewch i ‘Edit Timeline’ a defnyddiwch y cyfrinair ‘rhithfro’.

Y broblem ‘cyntaf yn y Gymraeg’ a sut i’w datrys

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Drwy gael llinell amser, caries mae hefyd yn anorfod ein bod ni’n mynd i gael nifer o gofnodion sydd yn nodi’r ‘[enw gwefan yma] cyntaf yn y Gymraeg’.

Does dim yn bod ar hyn, sildenafil ac mae’n bwysig eu cofnodi, yn enwedig pan oedden nhw wir o flaen amser neu wedi gosod seiliau i nifer fawr o bethau ddaeth ar eu holau.

Ond y broblem efallai yw bod popeth a ddigwyddodd wedyn ar y wefan yn dueddol o gael ei anwybyddu. Gyda rhywbeth mor gyfoethog â fforymau neu wefannau deinamig prysur sydd wedi eu diweddaru’n aml, sut mae osgoi hyn?

Straeon Personol Unigolion

Dwi’n credu bod angen i unigolion ddweud eu straeon – felly dyma ofyn i chi ddweud eich stori chi o wefan benodol.

  • Sut mae gwefannau Cymraeg neu rwydweithiau Cymraeg arlein wedi effeithio ar eich bywyd chi mewn rhyw ffordd?
  • Beth oedd yno wnaeth eich ysgogi chi i wneud rhywbeth y tu allan i fyd y wefan honno? 

Yn y bôn sut mae eich profiadau ar wefannau Cymraeg wedi siapio eich bywyd?

Rhowch stori yn y sylwadau yma, ar Twitter/Facebook, neu os am ysgrifennu cofnod hirach anfonwch destun ataf i a gallaf greu cofnod blog i chi.

Beth am ddiwylliant rhyngrwyd? Memynnau ac ati?

Memyn Cymraeg

Memyn Cymraeg?

Mae hanes yn awgrymu y dylai’r hyn sy’n cael ei drafod fod yn arwyddocaol, illness o bwys, visit web ond wrth gwrs, mae rhywbeth yn gallu bod yn arwyddocaol ar lefelau gwahanol, yn gymdeithasol, yn llywodraethol, yn rhyngwladol, neu’n bersonol.

Mae’r wefan hon yn ceisio rhoi gofod i bob math o hanes a hanesion gan gynnwys rhai sydd efallai ddim yn ddeunydd a gynhwysir mewn ‘hanes’ arferol.

Beth felly am ddiwylliant Cymraeg ar y we? Beth yw’r pethau hynny sydd yn rhan o greu diwylliant byw Cymraeg ar y we? Beth sy’n arwyddocaol mewn diwylliant arlein?

Mae Luistxo Fernandez yn sicr bod bodolaeth memynnau, neu memes, mewn iaith leiafrifol yn arwydd o iechyd yr iaith honno arlein. Ond beth yw memynnau? A sut mae eu hadnabod?

Daeth y gair meme o lyfr Richard Dawkins, yn ei lyfr The Selfish Gene, mae’n gosod bod gwybodaeth yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i natur:

Ideas cause ideas and help evolve new ideas. They interact with each other and with other mental forces in the same brain, in neighboring brains, and thanks to global communication, in far distant, foreign brains. And they also interact with the external surroundings to produce in toto a burstwise advance in evolution that is far beyond anything to hit the evolutionary scene yet. (dyfyniad o’r erthygl hwn)

Mae’r term “memyn rhyngrwyd” wedi esblygu i fod yn rhywbeth chydig yn wahnaol. Mae memyn rhyngrwyd yn ffenomenon lle mae syniad: delwedd, fideo, jôc, hashnod, yn cael ei ail-gymysgu, ei ail-ddefnyddio, a’i ail-bwrpasu ar gyfer cyfathrebu pwynt gwahanol, sydd yn aml drwy ddefnydd comedi eironig. Mae’r dealltwriaeth o’r egin syniad gwreiddiol, a’r chwarae sydd yn dod ar ben y syniad hwnnw yn rhoi llwyfan i syniad deithio. Mae gwefan KnowYourMeme.com, sy’n casglu achosion o memes rhyngrwyd a chynnwys firysol, yn ei symleiddio ymhellach:

Internet memes have risen in popularity with the rise of Internet Culture as more and more people identify with and participate on the Web as their primary method of expression and content consumption. (An Internet memes is a piece of content or an idea that’s passed from person to person, changing and evolving along the way. A piece of content that is passed from person to person, but does not evolve or change during the transmission process is considered viral content.)

Felly gwelwn bod memynnau’n teithio rhwng pobol, gan newid wrth iddyn nhw fynd ond gan gadw un llinyn o’r syniad gwreiddiol. Mae hyn yn digwydd oddiar lein hefyd, gwelwn oi fewn celf stryd bod syniadau rhai pobol yn cael eu haddasu a’u ail0gymysgu gan “ddyfynnu” eraill. Mae’n hen arferiad, ond mae’r rhyngrwyd wedi gwneud natur y lledaenu yn gyflymach a’r dosbarthiad yn ehangach.

Beth felly am femynnau a chynnwys firsyol Cymraeg? Gyda phwll bach o bobol beth yw’r fflamau o jôc neu ail-gymysgu sydd wedi lledaenu drwy’r we? Neu ai fflachiau unigol o hiwmor sydd ddim yn cael eu haddasu sydd yn digwydd? Os felly, pam felly?

Newydd ar y llinell amser: Mehefin 2005 – Crazy Ffrog Cymraeg

firefoxBe am hon ta? Ddim jest lansiadau meddalwedd yn Gymraeg neu’r hyn a’r llall cyntaf yn Gymraeg sydd ei eisiau ar y llinell amser yma ond pethau diwylliannol diddorol sydd wedi digwydd yn Gymraeg ar y we. Mae memynnau rhyngrwyd (neu internet memes) yn rhan bwysig o ddiwylliant rhyngrwyd ac mae’r rhaglennwr a sylwebydd rhyngrwyd Basgeg, web Luistxo Fernandez, yn honni bod bodolaeth a llwyddiant memes rhyngrwyd mewn ieithoedd lleiafrifol yn dangos iechyd iaith. Cytuno?

Pa rai eraill Cymraeg ydach chi’n cofio? Beth sydd wedi cael nifer uchel o ‘views’ ar YouTube? Hashnodau poblogaidd?

HIT FEIRAL GWE CYMRAEG: CRAZY FFROG CYMRAEG / LLYFFANT LLOERIG

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd recordiad mp3 yn dynwared y Crazy Frog ond gyda cheg tipyn butrach. Rhannwyd y trac yn eang yn arbennig fel ringtone ffônau symudol.

Dyma’r drafodaeth am y trac ar fforwm maes-e.com

Dyfyniad o’r Daily Post:

“The Welsh frog is understood to have originated in the Bangor area.

The tone, which can be downloaded for free, was quickly traded among youngsters in the area.

In it, the Welsh frog criticises the Crazy Frog phenomenon in a colourful ‘Cofi’ ((Caernarfon) accent.

The anonymous creators of the Welsh frog were yesterday given a ‘hands-off’ warning by the owners of the Crazy Frog image.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser neu ddarllenwch y stori am y recordiad yn y Daily Post.

Dyma recordiad (nid y gwreiddiol, gafodd ei dynnu oddi ar y gweinydd) sydd wedi cael ei roi nol ar-lein:

Blogiau / Proto-flogiau Cymraeg cyn MorfaBlog?

Cododd Nic Dafis, psychiatrist awdur Morfablog, purchase bwynt da yngl?n â’r datganiad ar y llinell amser taw Morfablog oedd y blog cyntaf yn y Gymraeg:

Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw beth fel hyn? Mi fasa’n dda gallu cael gwybod os oedd unrhyw un yn diweddaru ‘homepage’ ar ffurf dyddiadur blogaidd neu Live Journal fel oedd Nic yn cyfeirio ato? Be oedd y proto-blogs Cymraeg?

Os nad oedd Morfablog y cyntaf, yna’n sicr mae’r un sydd wedi para hira! 12 mlynedd o flogio’n dod fyny fis Ebrill yma!
Morfablog 2013

Newydd ar y llinell amser: Ionawr 2006 – lansio S4C Bandllydan – rhaglenni Cymraeg ar y we

Screen Shot 2013-01-13 at 21.47.36RHAGLENNI S4C AR Y WE – S4C BANDLLYDAN

Dechreuodd S4C rhoi rhaglenni teledu arlein am y tro cyntaf yn Ionawr 206.

Cofnod gan cymrodor

O’r Adroddiad Blynyddol 2006:

“Yn 2006, adiposity fe estynnwyd argaeledd rhaglenni a gwasanaethau S4C i ystod o lwyfannau digidol. Cafodd Fideo-ar-Alw (FaA) – sy’n caniatáu i bobl wylio rhaglenni ar-lein ar adeg o’u dewis – ei gyflwyno ym mis Ionawr. Ddeunaw mis yn ddiweddarach mae gan S4C wasanaeth FaA cynhwysfawr yn seiliedig ar gyfundrefn hawliau flaengar, drwy drefniant trwyddedu gyda chynhyrchwyr. Fe ehangwyd gwasanaethau rhyngweithiol drwy’r botwm coch ar loeren ddigidol, gan ganiatáu i S4C ddarparu sylw ychwanegol ac eang o brif ddigwyddiadau haf Cymru.”

Mae’n wir bod rhaglenni wedi eu rhoi ar y we cyn hyn, ond hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnig fel gwasanaeth cyflawn gyda phob math o raglenni. Ail-frandiwyd y gwasanaeth fel S4C Clic yn nes ymlaen.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser.

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006