Category Archives: Newydd ar y Llinell Amser

Ymestyn dechrau’r llinell amser i 1989

Dwi wedi penderfynu ymestyn dechrau’r llinell amser i gynnwys beth mae Rhys Jones yn ystyried yn eni trafodaethau Cymraeg ar-lein, cost sef y neges Gymraeg gyntaf sydd wedi ei chadw yn archifau Google o drafodaethau Usenet.

NEGES GYMRAEG GYNTAF AR USENET

Yn ôl ymchwil Rhys Jones ar ddechreuadau’r Gymraeg arlein, orthopedist y neges gyntaf Gymraeg sy’n bosib ei darganfod drwy archifau Google erbyn hyn yw’r neges hon gan Rennie Bidgood o AT&T Bell Labs: “I need someone to help me translate the following: Yn nwfn swyn ei fynwes O Caf lonydd caf le i…

Dyma sut mae Rhys Jones yn disgrifio Usenet a geni trafodaethau Cymraeg ar-lein:

“Ceid gogwydd Americanaidd i’r trafodaethau cynnar hefyd. Nifer fechan o brifysgolion a sefydliadau ymchwil oedd â chysylltiad ag Usenet yn y Deyrnas Unedig, ac ychydig iawn o rwydweithiau preifat oeddyn cynnig cysylltiad ag Usenet i ddefnyddwyr cartref neu fusnes. […] Ystyrir Usenet gan Marc Smith yn ‘collection of cyberspaces’, disgrifiad sy’n pwysleisio pa mor unigryw yw pob un o’r grwpiau newyddion, ac yn y dirwedd hon y ganwyd trafodaethau Cymraeg ar-lein.”

Cyfeirnod:

Jones, R.J., (2010). ‘Cilfachau Electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, Cyfrol 7. Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd.

Onid oes rhywbeth ysgytwol yn y gwrthgyferbyniad damweiniol hwn o enedigaeth/marwolaeth a’r hen/newydd?

Mae’r englyn yn rhan o englyn ehangach gan Ben Bowen o’i awdl ‘Y Diwygiwr’ oedd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod 1901, ond gafodd “ei ddefnyddio ar gofebau rhyfel a beddfeini”.

Dyma’r englyn gyda’r ddwy linell gyntaf:

Ymdawelaf, mae dwylo Duw ei hun
Danaf ymhob cyffro;
Yn nwfn swyn ei fynwes O
Caf lonydd, caf le i huno.

Ewch i’r gofnod lawn ar y llinell amser.

Newydd ar y llinell amser: Mehefin 2005 – Crazy Ffrog Cymraeg

firefoxBe am hon ta? Ddim jest lansiadau meddalwedd yn Gymraeg neu’r hyn a’r llall cyntaf yn Gymraeg sydd ei eisiau ar y llinell amser yma ond pethau diwylliannol diddorol sydd wedi digwydd yn Gymraeg ar y we. Mae memynnau rhyngrwyd (neu internet memes) yn rhan bwysig o ddiwylliant rhyngrwyd ac mae’r rhaglennwr a sylwebydd rhyngrwyd Basgeg, web Luistxo Fernandez, yn honni bod bodolaeth a llwyddiant memes rhyngrwyd mewn ieithoedd lleiafrifol yn dangos iechyd iaith. Cytuno?

Pa rai eraill Cymraeg ydach chi’n cofio? Beth sydd wedi cael nifer uchel o ‘views’ ar YouTube? Hashnodau poblogaidd?

HIT FEIRAL GWE CYMRAEG: CRAZY FFROG CYMRAEG / LLYFFANT LLOERIG

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd recordiad mp3 yn dynwared y Crazy Frog ond gyda cheg tipyn butrach. Rhannwyd y trac yn eang yn arbennig fel ringtone ffônau symudol.

Dyma’r drafodaeth am y trac ar fforwm maes-e.com

Dyfyniad o’r Daily Post:

“The Welsh frog is understood to have originated in the Bangor area.

The tone, which can be downloaded for free, was quickly traded among youngsters in the area.

In it, the Welsh frog criticises the Crazy Frog phenomenon in a colourful ‘Cofi’ ((Caernarfon) accent.

The anonymous creators of the Welsh frog were yesterday given a ‘hands-off’ warning by the owners of the Crazy Frog image.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser neu ddarllenwch y stori am y recordiad yn y Daily Post.

Dyma recordiad (nid y gwreiddiol, gafodd ei dynnu oddi ar y gweinydd) sydd wedi cael ei roi nol ar-lein:

Newydd ar y llinell amser: Ionawr 2006 – lansio S4C Bandllydan – rhaglenni Cymraeg ar y we

Screen Shot 2013-01-13 at 21.47.36RHAGLENNI S4C AR Y WE – S4C BANDLLYDAN

Dechreuodd S4C rhoi rhaglenni teledu arlein am y tro cyntaf yn Ionawr 206.

Cofnod gan cymrodor

O’r Adroddiad Blynyddol 2006:

“Yn 2006, adiposity fe estynnwyd argaeledd rhaglenni a gwasanaethau S4C i ystod o lwyfannau digidol. Cafodd Fideo-ar-Alw (FaA) – sy’n caniatáu i bobl wylio rhaglenni ar-lein ar adeg o’u dewis – ei gyflwyno ym mis Ionawr. Ddeunaw mis yn ddiweddarach mae gan S4C wasanaeth FaA cynhwysfawr yn seiliedig ar gyfundrefn hawliau flaengar, drwy drefniant trwyddedu gyda chynhyrchwyr. Fe ehangwyd gwasanaethau rhyngweithiol drwy’r botwm coch ar loeren ddigidol, gan ganiatáu i S4C ddarparu sylw ychwanegol ac eang o brif ddigwyddiadau haf Cymru.”

Mae’n wir bod rhaglenni wedi eu rhoi ar y we cyn hyn, ond hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnig fel gwasanaeth cyflawn gyda phob math o raglenni. Ail-frandiwyd y gwasanaeth fel S4C Clic yn nes ymlaen.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser.

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006

Newydd ar y llinell amser: Gorffennaf 2001 – Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Dechreuwyd negesfwrdd gwe Cymraeg a ddaeth yn weddol boblogaidd, resuscitator ac arweiniodd at sefydlu maes-e

Cofnod gan dafyddt

Ymweld a’r gofnod ar y llinell amser

Pori archif gwefan Cymru Cwl

 

Oes gan bobol ragor o fanylion am Cymru Cwl? Pwy wnaeth ei sefydlu? Pryd wnaeth e ddirwyn i ben? Gadwch sylw!

Newydd ar y llinell amser: Mehefin 1995 – Y Rhyngrwyd ar Raglen Uned 5

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, clinic 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, malady a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwnm nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng NGhymru i gofnodi twf y We Gymrae, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

 

Efalli bod hwn yn ffordd i chi ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.

Cymraeg ar y we

Y Rhyngrwyd ar Raglen Uned 5

Ymddangosiad cyntaf y We Gymraeg ar raglen blant Uned 5, medicine
S4C gyda Nia Elin a Keith Morris. 20 Mehefin 1995.

Cofnod gan nici_b

(Fideo ar gyfrif YouTube dafyddt)

Newydd ar y llinell amser: Ebrill 2000 – Lansio Chwilotydd

Cymraeg ar y we

Cymraeg ar y we

CHWILOTYDD
Cymdeithas yr Iaith yn lansio ‘Chwilotydd’ – peiriant chwilio i ganfod tudalennau Cymraeg ar sail algorithm MAE + (SYDD / SY / SY’N) + (YDY, noun YDI, search YW). Datblygwyd gan @stanno fel addasiad o Cercador (Catalaneg) gan Vilaweb/Infopista

Dyma’r wefan wreiddiol, dyma’r erthygl gan y BBC a dyma’r datganiad i’r wasg gyda rhagor o wybodaeth.

Beth oedd y technolegau eraill a lansiwyd i wneud defnydd y Gymraeg arlein yn haws?

Newydd ar y llinell amser: Gorffennaf 1996 – Lansiad Gwefan BBC Cymru Wales

BBC Cymru Wales (1996)

Mae dafyddt wedi ychwanegu cofnod yn nodi dyddiad lansio gwefan BBC Cymru Wales

LANSIO GWEFAN BBC CYMRU WALES
Lansiwyd gwefan gynta BBC Cymru yn ystod Sioe Llanelwedd – gwefan y tu allan i grafangau canolog y BBC yn Llundain!

Beth oedd y cerrig milltir yn natblygiad y wefan honno? Allwch chi ychwanegu nhw?