Category Archives: Am y prosiect

Blogiau / Proto-flogiau Cymraeg cyn MorfaBlog?

Cododd Nic Dafis, psychiatrist awdur Morfablog, purchase bwynt da yngl?n â’r datganiad ar y llinell amser taw Morfablog oedd y blog cyntaf yn y Gymraeg:

Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw beth fel hyn? Mi fasa’n dda gallu cael gwybod os oedd unrhyw un yn diweddaru ‘homepage’ ar ffurf dyddiadur blogaidd neu Live Journal fel oedd Nic yn cyfeirio ato? Be oedd y proto-blogs Cymraeg?

Os nad oedd Morfablog y cyntaf, yna’n sicr mae’r un sydd wedi para hira! 12 mlynedd o flogio’n dod fyny fis Ebrill yma!
Morfablog 2013

Yr her i gofnodi hanes y We Gymraeg

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, sildenafil 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwn nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng Nghymru i gofnodi twf y We Gymraeg, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

Efallai bod hwn yn ffordd i chi, i ni fel defnyddwyr y we, ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org. Yn ogystal, mae erthgyl gradd ddiddorol iawn gan Robert Andrews o tua 1998/99 o’r enw ‘Pobl y Net: What Happens to Welsh National Identity in the New Global Media Community’.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.

Hanes pwy sy’n gywir? A phwy sydd am gywiro?

Llinell Amser SgrinlunNid yw hwn yn ymgais i ysgrifennu hanes gynhwysfawr, visit a dydw i ddim yn hanesydd, ascariasis ond beth os mae rhywun yn anghytuno gyda ffeithiau cofnod mae rhywun arall wedi ei roi ar y llinell amser? Sut mae modd nodi hynny neu ei addasu?

Mae hyn yn codi llu o gwestiynau a dim un yn hawdd. Oherwydd natur y feddalwedd, does dim modd iddo fod fel wiki, lle gellir golygu erthygl nes ei fod yn cyrraedd at rhyw fath o lefel o ‘ffeithioldeb’ sydd yn dderbyniol neu bod yna stalemate o ran y ddadl.

Dim ond fi, golygydd y wefan all olygu cofnod gan rywun arall, ond dwi ddim yn mynd i fod yn awdurdod ar lawer o’r hyn mae pobol yn ei roi yno.

Efallai taw un ffordd ryff o ddelio gyda hyn ydi trwy gyfeirio o’r cofnod at gofnod ar y blog hwn sydd yn trafod y pwnc, neu efallai at dudalen ar Wicipedia er mwyn galluogi ei drafod fel wiki.

Dwi ddim chwaith fel golygydd am weld camgymeriadau ffeithiol ym mhob achos felly mae angen ffordd o nodi hynny mewn ffordd addas. Beth fyddai hynny?

Beth ydych chi’n ei feddwl?

Ddylai hyn ddim atal rhywun rhag cyfrannu achos bydd pob cyfraniad yn werthfawr, hyd yn oed, neu’n arbennig felly, os mae’n dechrau dadl!

Hanes y we a hanes y rhyngrwyd?

Naw wfft i fyd modern a gwe'r internet - llun: dafyddt ar Flickr

Naw wfft i fyd modern a gwe’r internet – llun: dafyddt ar Flickr

Mae rhai’n dweud bod y we’n gwneud i hoedledd ein sylw grebachu’n llai a llai nes ein bod ni ond yn gallu canolbwyntio ar fyrbrydau cyfryngol, rheumatologist a dwi’n sicr yn cael fy hun yn neidio o un peth i’r llall heb dalu sylw i’r un yn llawn. Yn yr un modd dwi’n mynd yn ofnadwy o gyffrous ar ddechrau prosiect newydd a’n ffeindio’r cloi a thynnu’r edefynnau amrywiol at ei gilydd yn un cwlwm taclus ar y diwedd yn llawer anoddach.

Ond deuparth gwaith ac ati, felly dros y dyddiau diwethaf dwi wedi bod yn cynllunio ychydig ar sut mae’r prosiect hanes torfol yma am weithio yn ogystal â’r ffiniau, neu ddim, a fyddai ar ei sgôp.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y we a’r rhyngrwyd i’r rhan fwyaf o bobol?

Un agwedd dwi wedi bod yn cwestiynu ydi’r hyn sydd yn ‘we’ a’r hyn sydd yn ‘rhyngrwyd’ a’r hyn sydd yn cael ei ddeall gan y cyhoedd fel y ‘sdwff sydd yn digwydd ar-lein neu ar ddyfeisiau digidol’. Dwi’n cael y teimlad, ac wedi darllen, gweld a chlywed nfer fawr o bobol (gan gynnwys fi fy hun!), yn cymysgu’r we efo’r rhyngrwyd.

Mae’r WWW sydd wedi ei nodweddu gan ddogfennau wedi eu cysylltu drwy hyperdestun a’u cyfeirio drwy URIs wedi ei adeiladu ar sylfaen y rhyngrwyd, sydd yn system rhwydweithio pecynnau data digidol a gafodd ei ddatblygu ar ddiwedd y 1960au, ymhell cyn bod y we’n syniad ym mhen Tim Berners-Lee. Mae systemau rhwydweithiol digidol eraill yn bodoli ar y rhyngrwyd, ond nid ar y we, fel ebost, systemau ffôn VoIP, teledu IP, a rhannu data a ffeiliau peer to peer. Mae apiau ffônau symudol hefyd yn drysu’r ffin rhwng beth sy’n digwydd drwy borwr a beth sydd ddim.

Gellid dweud felly’n weddol sicr taw ‘y we’ mae llawer iawn o bobol yn ei ddefnyddio erbyn hyn fel llawfer am y rhan fwyaf o’r sdwff dydd i ddydd sy’n digwydd gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae o hefyd yn enw lot mwy bachog na rhyngrwyd, yn anffodus i bendantiaid a dyfeiswyr y rhyngrwyd.

Dyna pam dwi wedi penderfynu ei alw’n ‘hanes y we Gymraeg’ oherwydd dwi’n teimlo ei fod yn  cyfathrebu’r syniad yn gliriach na hanes y rhyngrwyd. Cawn weld os dwi’n iawn. Wrth gwrs, mae llawer o bethau pwysig sydd wedi digwydd yn Gymraeg ar-lein fel rhestrau ebost, gr?piau newyddion a byrddau bwletin wedi digwydd ar y rhyngrwyd yn hytrach nac ar y we, felly mae’r rhain yn rhan o’r sgôp hefyd.

Pa gyfnod amser i’w ddewis?

Yr ail beth yw bod dechrau’r we ym 1991 yn rhoi man cychwyn sydd ddim yn rhy bell yn ôl. Mae sawl un eisoes wedi gwneud gwaith llawer dyfnach ar y cyfnod cynnar hwn o’r Gymraeg ar y rhyngrwyd na fydd yn cael ei wneud yn y prosiect hwn  a byddaf yn rhoi cofnod blog am y rheiny nes mlaen er mwyn rhoi gofod sylw priodol iddyn nhw. Mae tua 20 mlynedd yn gyfnod lle mae llawer wedi digwydd a’r gallu i gael mynediad at y rhyngrwyd wedi tyfu’n fwy ac yn gyflymach nag y byddai unrhywun wedi disgwyl ar ddechrau’r 90au. Serch hynny, mae yna fylchau digidol pendant yn bodoli, gyda band-llydan cyflymder uchel yn cael ei ddarparu i ddinasoedd tra bod rhai pentrefi’n parhau i fethu cael cyswllt digon cyflym i wneud y rhan fwyaf o bethau fel llwytho lluniau, a gwylio fideo y mae llawer iawn yn ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn.

Felly 1991 tan ddiwedd 2012 – beth ddigwyddodd i’r Gymraeg ar y rhyngrwyd a’r we yn ystod y cyfnod hwn?

Ychwanegwch y darnau o’r hanes fel rydych chi’n ei gweld hi.

Cofnod cyntaf o’i fath yn y Gymraeg!*

cyntaf-oi-fath-gymraeg

* ar y wefan yma…

Ond bydd y wefan yma’n le i sôn am ambell i beth oedd wirioneddol gyntaf o’u math yn y Gymraeg, contagion a lot fawr o bethau oedd ddim yn gyntaf, ond r’un mor bwysig.

Croeso i Hanes y We Gymraeg!

Mae hwn yn brosiect i geisio casglu, a hynny drwy wyrth yr intertiwbs, straeon a dolenni at y pethau hynny sydd yn eich barn chi wedi bod yn bwysig neu’n gerrig milltir yn natblygiad y we yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cyfyngu’r diffiniad o ‘we Gymraeg’ achos mae’r term yn gallu golygu pethau gwahanol i wahanol bobol. Gallwch chi gyfrannu beth bynnag rydych chi’n meddwl sy’n berthnasol i fod yn rhan o hanes y we Gymraeg (a bits o’r rhyngrwyd, ond awn ni ddim mewn i hynna fan hyn). Chi sy’n penderfynu beth oedd yn arwyddocaol, chi sy’n siapio’r hanes, achos sneb arall wedi ei siapio eto…

Mwy o wybodaeth yn fuan ar sut i gyfrannu.