Author Archives: Rhodri ap Dyfrig

Beth nesaf i brosiect hanes y we Gymraeg?

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Mae’r ymateb wedi bod yn wych, internist a’r llinell amser yn adnodd ardderchog ar gyfer cael cip ar ddatblygiadau pob math o agweddau ar fywyd Cymraeg ar y we.

Ond beth nesaf?

Parhau i gofnodi?

Rydw i fel ymchwilydd am orffen y bennod ar y prosiect hwn o fewn yr wythnosau nesaf, clinic ond er mwyn gallu gwneud hynny dwi wedi cau’r llinell amser.

Cododd Mei Gwilym bwynt da i mi ar ebost sef sut mae cofnodi hanes y we yn y blynyddoedd i ddod, ac ydi’r llwyfan hwn yn gallu bod yn lle da i wneud hynny?

Un syniad gododd o’r sgwrs yna ydi y gellid cael pleidlais ar ddiwedd pob blwyddyn ar beth i’w ychwanegu am y flwyddyn a fu. Byddai’n ffordd dda o gasglu deunydd a thynnu sylw at yr hanes sydd wedi ei gofnodi’n barod, ond byddai hefyd yn ffordd dda o dynnu sylw at brosiectau gwe Cymraeg heb orfod gwneud seremoni wobrwyo. Mi allai Hacio’r Iaith fod yn ganolbwynt da i hynny yn sicr.

Neu oes angen cyfle i ail-agor golygu’r llinell amser eto rhyw bryd a bod hynny’n ffordd o gofnodi?

Beth fyddech chi’n awgrymu fyddai’n ffyrdd da o gyfeothogi’r adnodd yn y dyfodol gan lenwi rhagor o’r bylchau sydd yn codi o wneud y gwaith hwn?

Ailosod yr her i haneswyr

Digwyddodd y prosiect yma’n rhannol fel ymateb i her Rhys Jones i geisio cofnodi mwy o’r hanes ôl-1996, ond wrth gwrs, crafu’r arwyneb wnaiff yr hyn a geir yma a byddai’n werthfawr iawn wrth geisio deall lle rydyn ni nawr, i gael rhagor o ymchwil i fentro’n ddyfnach mewn i agweddau a chyfnodau penodol o’r hanes diweddar a’r effaith cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd y mae defnydd y Gymraeg wedi ei gael (neu ddim!).

Beth amdani?

Ymestyn dechrau’r llinell amser i 1989

Dwi wedi penderfynu ymestyn dechrau’r llinell amser i gynnwys beth mae Rhys Jones yn ystyried yn eni trafodaethau Cymraeg ar-lein, cost sef y neges Gymraeg gyntaf sydd wedi ei chadw yn archifau Google o drafodaethau Usenet.

NEGES GYMRAEG GYNTAF AR USENET

Yn ôl ymchwil Rhys Jones ar ddechreuadau’r Gymraeg arlein, orthopedist y neges gyntaf Gymraeg sy’n bosib ei darganfod drwy archifau Google erbyn hyn yw’r neges hon gan Rennie Bidgood o AT&T Bell Labs: “I need someone to help me translate the following: Yn nwfn swyn ei fynwes O Caf lonydd caf le i…

Dyma sut mae Rhys Jones yn disgrifio Usenet a geni trafodaethau Cymraeg ar-lein:

“Ceid gogwydd Americanaidd i’r trafodaethau cynnar hefyd. Nifer fechan o brifysgolion a sefydliadau ymchwil oedd â chysylltiad ag Usenet yn y Deyrnas Unedig, ac ychydig iawn o rwydweithiau preifat oeddyn cynnig cysylltiad ag Usenet i ddefnyddwyr cartref neu fusnes. […] Ystyrir Usenet gan Marc Smith yn ‘collection of cyberspaces’, disgrifiad sy’n pwysleisio pa mor unigryw yw pob un o’r grwpiau newyddion, ac yn y dirwedd hon y ganwyd trafodaethau Cymraeg ar-lein.”

Cyfeirnod:

Jones, R.J., (2010). ‘Cilfachau Electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, Cyfrol 7. Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd.

Onid oes rhywbeth ysgytwol yn y gwrthgyferbyniad damweiniol hwn o enedigaeth/marwolaeth a’r hen/newydd?

Mae’r englyn yn rhan o englyn ehangach gan Ben Bowen o’i awdl ‘Y Diwygiwr’ oedd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod 1901, ond gafodd “ei ddefnyddio ar gofebau rhyfel a beddfeini”.

Dyma’r englyn gyda’r ddwy linell gyntaf:

Ymdawelaf, mae dwylo Duw ei hun
Danaf ymhob cyffro;
Yn nwfn swyn ei fynwes O
Caf lonydd, caf le i huno.

Ewch i’r gofnod lawn ar y llinell amser.

150 cofnod ar linell amser Hanes y We Gymraeg!

Wrth gyrraedd 150 cofnod mae’n gyfle cystal ag unrhyw un i ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect ac am roi cymaint o ddeunydd diddorol yno. Mae wedi mynd ymhell tu hwnt i ngobeithion i ar y dechrau a dwi’n siwr bydd yn datblygu eto yn y dyfodol.

Mae’r llinell amser wedi cau i gyfraniadau newydd am y tro, herpes ond os oes unrhywun ar dân eisiau ychwanegu rhywbeth yna dwi’n hapus i’w derbyn drwy ebost / cyfrwng arall a’u gosod nhw fy hun. Mae’r un peth yn wir am gywiriadau neu olygiadau – cysylltwch ac fe wna’i eu newid.

[iframe  frameborder=”0″ style=”border-width:0;” id=”tl-timeline-iframe” width=”960″ height=”600″ src=”http://www.tiki-toki.com/timeline/embed/84932/3660970837/”]

Dyfyniad diddorol o Wales on the Web (2005) gan Andrew Green

Mae Wales on the Web yn lyfryn bach sydd yn ceisio sôn am gynnwys unigryw Cymreig ar y we a lle oedd yr anghenion am ymyrryd er mwyn gwella natur, symptoms safon a chyrhaeddiad cynnwys Cymreig ar y we.

Dyma oedd ganddo i’w ddweud am gynnwys Cymraeg:

“Finally in this section it is worth looking briefly at the role of the internet in giving a virtual voice to the Welsh language. There is no better example of the global dominance of the English language than the Web. If the Welsh language is to survive and thrive, info it must do so on all recording media, site not only the traditional ones such as print and broadcasting. A weakness of the Assembly Government’s strategy for the future of the Welsh language, Iaith Pawb, is that it is very cautious about measures to promote the Welsh language and its use on the internet. A recent strategy document by the Welsh Language Board, Information technology and the Welsh language, begins to fill this gap, though it concentrates on technologies rather than content.”

Green, A. (2005) Wales on the Web. IWA: The Gregynog Papers. (tt.25)

Ar wahân i Golwg360, pa mor bell mae’r pendil wedi symud at ganolbwyntio ar gynnwys yn hytrach na’r dechnoleg?

Diwrnod olaf i gyfrannu at y llinell amser…

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Roedd yn fwriad o’r cychwyn i greu y prosiect yn un torfol ond un gyda ffiniau amser pendant. Un wers dwi wedi ei ddysgu o brosiectau torfol eraill ydi bod cael cyfnod pendant ar gyfer y torfoli yn llawer mwy effeithiol nac un penagored. Yn yr achos hwn, viagra sale mae hynny i’w weld wedi bod yn wir hefyd, a dwi’n andros o falch ei fod wedi rhoi dyddiad i bobol weithio tuag ato i gasglu gwybodaeth oedd efallai wedi ei wasgaur cynt.

Mae’n rhaid rhoi clod i dîm gwe BBC Cymru, presennol a gorffennol, am dynnu at ei gilydd a rhoi eu llinell amser nhw at ei gilydd. Mae nifer fawr o gofnodion wedi cael eu hychwanegu ddoe, ond mae’n bosib y cawn ni hefyd gofnod blog estynedig sydd yn rhoi gwybodaeth fanylach eto o’u cyfraniad nhw at y Gymraeg arlein.

Mae yma hefyd gofnodion newydd gan y Coleg Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru a bydd rhai gan y Llyfrgell Genedlaethol erbyn diwedd heddiw. Diolch mawr i bawb sydd wedi gweld gwerth mewn ychwanegu, cywiro, a thrafod.

Os oes unrhyw sefydliad eisiau ysgrifennu cofnod lawnach ar y blog hefyd yna mae croeso i chi wneud. Cysylltwch â fi yn y sylwadau, ar Twitter neu ebost.

Wedi’r dyddiad cau bydda i’n allforio copiau o’r llinell ac yn eu cynnig fel ffeil Word, PDF, cronfa ddata CSV ar y wefan hon fel y gall pawb ail-ddefnyddio ac ail-gymysgu fel rydych chi eisiau. Efallai bydd modd hefyd eu cyhoeddi mewn print mewn rhyw fodd. Unrhyw awgrymiadau ar sut fyddai orau?

Cwestiwn arall sydd wedi codi heddiw hefyd: a fyddai gwerth cyfieithu’r llinell i’r Saesneg?

Byddai’n ardderchog gallu rhannu ein stori fechan ni gyda’r byd, yn bydde…

Cyflwyniad am y prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol – sleidiau

Mi roddais i ddarlith awr-ginio ddoe yn y Llyfrgell Genedlaethol, page Aberystwyth, mind yn seiliedig ar rai canfyddiadau sy’n codi i fi o’r prosiect hwn. Mi gefais groeso yno a dwi’n gobeithio bod y cyflwyniad wedi bod rhoi rhyw fath o snapshot o weithgareddau 20 mlynedd a mwy o ddefnydd y gymraeg ar y we. Mae hynny’n lot o amser a lot o hanes, physician ac fel gyda’r llinell mae yna rybudd iechyd nad yw hwn yn hollol ddiffiniol, bod posibiliad o feithiau heb dystiolaeth lawn eto, a bod peryg o fod yn llawer rhy arwynebol.

Wedi dweud hynny, mae’n werth dechrau rhywle ac mi o’n i’n awyddus i weld os oedd na batrymau, themau neu gyfnodau’n codi o edrych ar y llinell amser ar ei hyd.

Mi gafodd fideo ohono ei recordio gan y Llyfrgell a dwi’n gobeithio y bydd y recordiad llawn ar gael yn fuan er mwyn bod y sleidiau yma’n gwneud synnwyr. Fel y mae’n nhw, does dim lot o wybodaeth heblaw am strwythr y ddarlith, ond meddwl y dylwn eu rhoi arlein beth bynnag.

Pimpio Hanes y We Gymraeg ar Heno

Heddiw, sale aeth y nifer o gofnodion ar y llinell amser dros y 100.

Cofnod am fideo YouTube Genod Droog yn cyrraedd dros 50,000 o wyliadau oedd y 100fed. Dyma’r fideo i chi:

 

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol i’r llinell, neu sydd wedi rhoi gwybodaeth drwy ebost, FB, Twitter a Hacio’r Iaith. Dwi’n eithaf balch bod cymaint yno a dweud y gwir, ond dwi’n sylweddoli o weld beth sydd yna, cymaint sydd hefyd ar goll.

Pa faesydd ddylai gael sylw yn yr wythnos olaf?

Beth am wefannau a phrosiectau gwe’r sector gyhoeddus a’r sector wirfoddol?

Mae ambell un yno am Y Cynulliad ond prin yw’r rhai mwy lleol neu arbenigol. Mae ‘na lawer stori fan honno hefyd.

Beth am wefannau rhaglenni teledu penodol S4C?

Beth yw’r gwefannau sydd wedi bod yn rhai arloesol, arywddocaol neu lot o hwyl i’w defnyddio?

Beth am wefannau i ddysgwyr Cymraeg?

Beth arall?

Cynrychioli cyfnod maes-e, contagion
yo!

(Diolch i archifdu am y recordiad!)

Cyrraedd y nod! 100 cofnod ar y llinell amser

Heddiw, weight loss aeth y nifer o gofnodion ar y llinell amser dros y 100.

Cofnod am fideo YouTube Genod Droog yn cyrraedd dros 50, shop 000 o wyliadau oedd y 100fed. Dyma’r fideo i chi:

 

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol i’r llinell, ailment neu sydd wedi rhoi gwybodaeth drwy ebost, FB, Twitter a Hacio’r Iaith. Dwi’n eithaf balch bod cymaint yno a dweud y gwir, ond dwi’n sylweddoli o weld beth sydd yna, cymaint sydd hefyd ar goll.

Pa faesydd ddylai gael sylw yn yr wythnos olaf?

Beth am wefannau a phrosiectau gwe’r sector gyhoeddus a’r sector wirfoddol?

Mae ambell un yno am Y Cynulliad ond prin yw’r rhai mwy lleol neu arbenigol. Mae ‘na lawer stori fan honno hefyd.

Beth am wefannau rhaglenni teledu penodol S4C?

Beth yw’r gwefannau sydd wedi bod yn rhai arloesol, arywddocaol neu lot o hwyl i’w defnyddio?

Beth am wefannau i ddysgwyr Cymraeg?

Beth arall?

Owain Owain yn rhagweld dylanwad y we ym 1969

y dydd olaf - Owain OwainO’r dudalen Wicipedia:

Roedd yn wyddonydd niwclear yn y 50au, viagra a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis ‘Gwennol y Gofod’, sickness a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis ‘Gwledydd Prydain‘ yn hytrach na ‘Phrydain’. Roedd yn golofnydd ‘Nodion Gwyddonol’ Y Cymro am flynyddoedd gan ysgrifennu’n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear.

Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: Yn syml, mae’r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi’n bosibl cofnodi’r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy’r oesau mewn un lle, mewn modd sy’n galluogi unrhyw unigolyn – o’i gartref ei hun er enghraifft – archebu a derbyn unrhyw ran o’r wybodaeth honno…

Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu’r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach – yn llawer pwysicach – na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y “cof”.

Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy’n codi o brofiad, gyda’r disgybl, yn hytrach na’r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr – yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy’n gyfystyr a gwir addysg.

Gellir gweld yr erthygl lawn yma.