Atgoffwr os bu angen…”Mae’r rhyngrwyd yn fregus”

Cymraeg ar y weWedi dod ar draws hwn ar flog Dafydd Vaughan neithiwr ac fe wnaeth daro nodyn o weld faint o wefannau sydd wedi diflannu neu ond wedi eu rhannol archifo:

At some point in the last few weeks a lot of the things I worked on back in Consumer Focus disappeared from the internet. The sites were turned off and the URLs redirected to the organisation homepage.

There is no explanation or notice explaining why you end up on that homepage and you would be forgiven for thinking that the sites and tools never existed. Every link ever made to any of those things are now broken.

It’s strange to see two years of your professional life just disappear. I can’t really blame Consumer Focus for this – they no longer have anyone with the skills or knowledge to keep the things running (and the organisation will close entirely very soon).

Unfortunately, advice this happens all too frequently online. Websites are rebuilt, more about things are moved, stuff is deleted without explanation or warning. Bits of our digital history are just lost forever. The internet is fragile.

Keeping everything operating and the same for the rest of eternity isn’t realistic.

Dwi’n falch felly bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi mynd ati i archifo peth deunydd o’r we Gymraeg a Chymreig ers 2003, a hefyd bod erthyglau newyddion Cymraeg BBC Cymru’r Byd dal arlein. Mae archive.org yn help, ond mae’n amherffaith iawn gan anaml roi mwy na thudalen flaen a honno heb ddelweddau.

Efallai taw un gwers o’r ymarfer hwn ydi bod angen i ni fynd ati i sicrhau bod archifo deunydd arlein yn cael digon o sylw ac er nad oes modd casglu’r cyfan, bod yna le teilwng i archifwyr digidol. Er mor effemeral mae’r pethau ma’n teimlo weithiau, mae na werth mewn cadw detholiad er mwyn i ni allu ceisio deall yn well wrth edrych nôl, dysgu o’r gorffennol.

3 thoughts on “Atgoffwr os bu angen…”Mae’r rhyngrwyd yn fregus”

  1. Dafydd Tomos

    Mae’n nodweddiadol hefyd (ac eitha trist) sut mae nifer o wefannau Cymraeg wedi diflannu ar ôl cael eu hacio. Mae cael syniad da ar gyfer gwefan yn un peth – mae cynhaliaeth technegol hir-dymor yn beth arall.

    Fe wnaeth datblygiad meddalwedd cod agored fel WordPress, phpBB, Drupal ac eraill wneud hi’n rhwydd iawn i greu gwefan heb unrhyw ddealltwriaeth dechnegol. Y risg yw fod meddalwedd poblogaidd fel hyn yn hawdd i’w targedu a mae angen gofalu am y dechnoleg yr un fath a’r gymuned sy’n ei ddefnyddio.

    Reply
    1. Rhodri ap Dyfrig Post author

      Dwi’n euog o hyn fy hun rhaid cyfadde. Mae na gopi o wefan Rwdls Nwdls a Pictiwrs.com ar fy nisg galed yn aros i mi sortio eu rhoi nhw nôl arlein mewn ffordd gall. Yn achos Nwdls.net – diogi sydd ar fai; o ran Pictiwrs – ar ôl symud o Movable Type, i Drupal i WordPress, ma tynnu’r gronfa ddata at ei gilydd eto y tu hwnt i fy ngallu a dwi angen help rhywun er mwuyn ei roi nol fyny. Yn y broses o wneud y trosglwyddiad dwetha nes i esgeuluso Drupal a cafodd ei hacio. Ma’r un stori wedi digwydd i sawl blog a gwefan, ond roedd sawl blog hefyd wedi dioddef o gael eu cau drostyn nhw un ai oherwydd bod y cwmni wedi diflannu (fel Blog-City) neu bod y cwmni’n or awyddus i atal cyfrifon fynd yn segur fe oedd BlogSpot yn arfer gwneud gyda’i polisi 6 mis. Mae rhai eraill jest wedi dileu eu blogiau eu hunain, ond mae pob hawl gan bobol wneud hynny.

      Reply

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *