Newydd ar y llinell amser: Gorffennaf 2001 – Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Dechreuwyd negesfwrdd gwe Cymraeg a ddaeth yn weddol boblogaidd, resuscitator ac arweiniodd at sefydlu maes-e

Cofnod gan dafyddt

Ymweld a’r gofnod ar y llinell amser

Pori archif gwefan Cymru Cwl

 

Oes gan bobol ragor o fanylion am Cymru Cwl? Pwy wnaeth ei sefydlu? Pryd wnaeth e ddirwyn i ben? Gadwch sylw!

4 thoughts on “Newydd ar y llinell amser: Gorffennaf 2001 – Negesfwrdd y Cymru Cwl

  1. Nic Dafis

    Fel dw i’n ei gofio, “Gordon” (gweler ei enw yn y sgrînlun) oedd y rheolwr – ai fe yw’r Iestyn Lewis ‘te?

    Roedd tipyn o go ar y bwrdd, ond oedd tipyn o broblem hefyd, gyda throliaid di-enw. Gan fod dim modd i greu cyfri parhaol, oedd pobl yn gallu dod i mewn a dinistrio sgyrsiau yn ddiffwdan, ac oedd troliaid wrth-Gymraeg yn gallu wneud drive-bys sydyn.

    Hefyd, oedd y lliw yn brifo fy llygaid.

    Hedd Gwynfor, un o ddefynddwyr brwd y bwrdd, oedd wedi awgrymu sefydlu negesfwrdd gyda bach mwy o strwythur, ac es i ati dros benwythnos i roi rhywbeth at ei gilydd.

    Does ‘na ddim archif?

    Reply
    1. Rhodri ap Dyfrig Post author

      Diolch Nic. Doeddwn i ddim yn gallu ffeindio archif gyflawn, dim ond hyn a hyn o dudalennau ar Archive.org

      Falle bod gan Iestyn gopi wrth gefn?

      Reply

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *