Cofnod cyntaf o’i fath yn y Gymraeg!*

cyntaf-oi-fath-gymraeg

* ar y wefan yma…

Ond bydd y wefan yma’n le i sôn am ambell i beth oedd wirioneddol gyntaf o’u math yn y Gymraeg, contagion a lot fawr o bethau oedd ddim yn gyntaf, ond r’un mor bwysig.

Croeso i Hanes y We Gymraeg!

Mae hwn yn brosiect i geisio casglu, a hynny drwy wyrth yr intertiwbs, straeon a dolenni at y pethau hynny sydd yn eich barn chi wedi bod yn bwysig neu’n gerrig milltir yn natblygiad y we yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cyfyngu’r diffiniad o ‘we Gymraeg’ achos mae’r term yn gallu golygu pethau gwahanol i wahanol bobol. Gallwch chi gyfrannu beth bynnag rydych chi’n meddwl sy’n berthnasol i fod yn rhan o hanes y we Gymraeg (a bits o’r rhyngrwyd, ond awn ni ddim mewn i hynna fan hyn). Chi sy’n penderfynu beth oedd yn arwyddocaol, chi sy’n siapio’r hanes, achos sneb arall wedi ei siapio eto…

Mwy o wybodaeth yn fuan ar sut i gyfrannu.

 

6 thoughts on “Cofnod cyntaf o’i fath yn y Gymraeg!*

  1. Rhys

    Syniad ardderchog. Oedd Dic Sais yn wefan Cymraeg Mae fy nnghof i’n ofnadwy)? Os oedd, mae’n debyg mai dyna’r peth cyntaf ddois i ar ei draws yn Gymraeg ar y we. Hefyd mae’r wefan gynhwysfawr http://kimkat.org/ wedi bod o gwmpas ers o leiaf 2005.

    Reply
    1. Rhodri ap Dyfrig Post author

      Oedd roedd Dic Sais yn Gymraeg. Cofio gweld hwn ar gyfrifiadur fy nghefnder tua 1998/99 hefyd. Cofio meddwl bod o’n blydi wych. Dwi di edrych amdano ar Archive.org ond sdim golwg. Raid bod archif yn rywle gan rywun…

      Reply
  2. Dafydd Tomos

    Wnes i ychwanegu cofnod ar y linell amser i Gwrs Cymraeg enwog Mark Nodine. Dwi wedi dyddio fersiwn cynharaf hwn i Mehefin 1994. Ai hwn oedd y wefan Gymraeg gynta ar y we erioed? Mae’n bosib fod rhai pobl yn berchen ar ‘dudalennau cartref’ cyn hynny ond mae’n debyg taw dyma’r wefan gynta gyda pwrpas penodol a defnyddiol.

    Fe sefydlwyd y wefan ar weinydd yn adran gyfrifiadureg Prifysgol Brown yn yr UDA cyn symud i adran gyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd.

    Reply

Gadael Ateb i Rhodri ap Dyfrig Diddymu ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *