Monthly Archives: Ionawr 2013

Croesi’r hanner can cofnod – gyrhaeddwn ni gant?

Erbyn hyn mae 60 cofnod ar y llinell amser. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Sgrinlun Hanes y We 29 Ion

Sgrinlun Hanes y We 29 Ion

Mae yna wythnos ar ôl i chi roi eich hanesyn chi ar y llinell. Ar y 6ed o Chwefror bydd y llinell yn cau i gofnodion torfol newydd.

I roi eich hanesyn chi yno ar gof a chadw ewch i’r llinell amser, otolaryngologist ewch i ‘Edit Timeline’ a defnyddiwch y cyfrinair ‘rhithfro’.

Y broblem ‘cyntaf yn y Gymraeg’ a sut i’w datrys

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Drwy gael llinell amser, caries mae hefyd yn anorfod ein bod ni’n mynd i gael nifer o gofnodion sydd yn nodi’r ‘[enw gwefan yma] cyntaf yn y Gymraeg’.

Does dim yn bod ar hyn, sildenafil ac mae’n bwysig eu cofnodi, yn enwedig pan oedden nhw wir o flaen amser neu wedi gosod seiliau i nifer fawr o bethau ddaeth ar eu holau.

Ond y broblem efallai yw bod popeth a ddigwyddodd wedyn ar y wefan yn dueddol o gael ei anwybyddu. Gyda rhywbeth mor gyfoethog â fforymau neu wefannau deinamig prysur sydd wedi eu diweddaru’n aml, sut mae osgoi hyn?

Straeon Personol Unigolion

Dwi’n credu bod angen i unigolion ddweud eu straeon – felly dyma ofyn i chi ddweud eich stori chi o wefan benodol.

  • Sut mae gwefannau Cymraeg neu rwydweithiau Cymraeg arlein wedi effeithio ar eich bywyd chi mewn rhyw ffordd?
  • Beth oedd yno wnaeth eich ysgogi chi i wneud rhywbeth y tu allan i fyd y wefan honno? 

Yn y bôn sut mae eich profiadau ar wefannau Cymraeg wedi siapio eich bywyd?

Rhowch stori yn y sylwadau yma, ar Twitter/Facebook, neu os am ysgrifennu cofnod hirach anfonwch destun ataf i a gallaf greu cofnod blog i chi.

Beth am ddiwylliant rhyngrwyd? Memynnau ac ati?

Memyn Cymraeg

Memyn Cymraeg?

Mae hanes yn awgrymu y dylai’r hyn sy’n cael ei drafod fod yn arwyddocaol, illness o bwys, visit web ond wrth gwrs, mae rhywbeth yn gallu bod yn arwyddocaol ar lefelau gwahanol, yn gymdeithasol, yn llywodraethol, yn rhyngwladol, neu’n bersonol.

Mae’r wefan hon yn ceisio rhoi gofod i bob math o hanes a hanesion gan gynnwys rhai sydd efallai ddim yn ddeunydd a gynhwysir mewn ‘hanes’ arferol.

Beth felly am ddiwylliant Cymraeg ar y we? Beth yw’r pethau hynny sydd yn rhan o greu diwylliant byw Cymraeg ar y we? Beth sy’n arwyddocaol mewn diwylliant arlein?

Mae Luistxo Fernandez yn sicr bod bodolaeth memynnau, neu memes, mewn iaith leiafrifol yn arwydd o iechyd yr iaith honno arlein. Ond beth yw memynnau? A sut mae eu hadnabod?

Daeth y gair meme o lyfr Richard Dawkins, yn ei lyfr The Selfish Gene, mae’n gosod bod gwybodaeth yn gweithio mewn ffyrdd tebyg i natur:

Ideas cause ideas and help evolve new ideas. They interact with each other and with other mental forces in the same brain, in neighboring brains, and thanks to global communication, in far distant, foreign brains. And they also interact with the external surroundings to produce in toto a burstwise advance in evolution that is far beyond anything to hit the evolutionary scene yet. (dyfyniad o’r erthygl hwn)

Mae’r term “memyn rhyngrwyd” wedi esblygu i fod yn rhywbeth chydig yn wahnaol. Mae memyn rhyngrwyd yn ffenomenon lle mae syniad: delwedd, fideo, jôc, hashnod, yn cael ei ail-gymysgu, ei ail-ddefnyddio, a’i ail-bwrpasu ar gyfer cyfathrebu pwynt gwahanol, sydd yn aml drwy ddefnydd comedi eironig. Mae’r dealltwriaeth o’r egin syniad gwreiddiol, a’r chwarae sydd yn dod ar ben y syniad hwnnw yn rhoi llwyfan i syniad deithio. Mae gwefan KnowYourMeme.com, sy’n casglu achosion o memes rhyngrwyd a chynnwys firysol, yn ei symleiddio ymhellach:

Internet memes have risen in popularity with the rise of Internet Culture as more and more people identify with and participate on the Web as their primary method of expression and content consumption. (An Internet memes is a piece of content or an idea that’s passed from person to person, changing and evolving along the way. A piece of content that is passed from person to person, but does not evolve or change during the transmission process is considered viral content.)

Felly gwelwn bod memynnau’n teithio rhwng pobol, gan newid wrth iddyn nhw fynd ond gan gadw un llinyn o’r syniad gwreiddiol. Mae hyn yn digwydd oddiar lein hefyd, gwelwn oi fewn celf stryd bod syniadau rhai pobol yn cael eu haddasu a’u ail0gymysgu gan “ddyfynnu” eraill. Mae’n hen arferiad, ond mae’r rhyngrwyd wedi gwneud natur y lledaenu yn gyflymach a’r dosbarthiad yn ehangach.

Beth felly am femynnau a chynnwys firsyol Cymraeg? Gyda phwll bach o bobol beth yw’r fflamau o jôc neu ail-gymysgu sydd wedi lledaenu drwy’r we? Neu ai fflachiau unigol o hiwmor sydd ddim yn cael eu haddasu sydd yn digwydd? Os felly, pam felly?

Newydd ar y llinell amser: Mehefin 2005 – Crazy Ffrog Cymraeg

firefoxBe am hon ta? Ddim jest lansiadau meddalwedd yn Gymraeg neu’r hyn a’r llall cyntaf yn Gymraeg sydd ei eisiau ar y llinell amser yma ond pethau diwylliannol diddorol sydd wedi digwydd yn Gymraeg ar y we. Mae memynnau rhyngrwyd (neu internet memes) yn rhan bwysig o ddiwylliant rhyngrwyd ac mae’r rhaglennwr a sylwebydd rhyngrwyd Basgeg, web Luistxo Fernandez, yn honni bod bodolaeth a llwyddiant memes rhyngrwyd mewn ieithoedd lleiafrifol yn dangos iechyd iaith. Cytuno?

Pa rai eraill Cymraeg ydach chi’n cofio? Beth sydd wedi cael nifer uchel o ‘views’ ar YouTube? Hashnodau poblogaidd?

HIT FEIRAL GWE CYMRAEG: CRAZY FFROG CYMRAEG / LLYFFANT LLOERIG

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd recordiad mp3 yn dynwared y Crazy Frog ond gyda cheg tipyn butrach. Rhannwyd y trac yn eang yn arbennig fel ringtone ffônau symudol.

Dyma’r drafodaeth am y trac ar fforwm maes-e.com

Dyfyniad o’r Daily Post:

“The Welsh frog is understood to have originated in the Bangor area.

The tone, which can be downloaded for free, was quickly traded among youngsters in the area.

In it, the Welsh frog criticises the Crazy Frog phenomenon in a colourful ‘Cofi’ ((Caernarfon) accent.

The anonymous creators of the Welsh frog were yesterday given a ‘hands-off’ warning by the owners of the Crazy Frog image.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser neu ddarllenwch y stori am y recordiad yn y Daily Post.

Dyma recordiad (nid y gwreiddiol, gafodd ei dynnu oddi ar y gweinydd) sydd wedi cael ei roi nol ar-lein:

Blogiau / Proto-flogiau Cymraeg cyn MorfaBlog?

Cododd Nic Dafis, psychiatrist awdur Morfablog, purchase bwynt da yngl?n â’r datganiad ar y llinell amser taw Morfablog oedd y blog cyntaf yn y Gymraeg:

Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw beth fel hyn? Mi fasa’n dda gallu cael gwybod os oedd unrhyw un yn diweddaru ‘homepage’ ar ffurf dyddiadur blogaidd neu Live Journal fel oedd Nic yn cyfeirio ato? Be oedd y proto-blogs Cymraeg?

Os nad oedd Morfablog y cyntaf, yna’n sicr mae’r un sydd wedi para hira! 12 mlynedd o flogio’n dod fyny fis Ebrill yma!
Morfablog 2013

Newydd ar y llinell amser: Ionawr 2006 – lansio S4C Bandllydan – rhaglenni Cymraeg ar y we

Screen Shot 2013-01-13 at 21.47.36RHAGLENNI S4C AR Y WE – S4C BANDLLYDAN

Dechreuodd S4C rhoi rhaglenni teledu arlein am y tro cyntaf yn Ionawr 206.

Cofnod gan cymrodor

O’r Adroddiad Blynyddol 2006:

“Yn 2006, adiposity fe estynnwyd argaeledd rhaglenni a gwasanaethau S4C i ystod o lwyfannau digidol. Cafodd Fideo-ar-Alw (FaA) – sy’n caniatáu i bobl wylio rhaglenni ar-lein ar adeg o’u dewis – ei gyflwyno ym mis Ionawr. Ddeunaw mis yn ddiweddarach mae gan S4C wasanaeth FaA cynhwysfawr yn seiliedig ar gyfundrefn hawliau flaengar, drwy drefniant trwyddedu gyda chynhyrchwyr. Fe ehangwyd gwasanaethau rhyngweithiol drwy’r botwm coch ar loeren ddigidol, gan ganiatáu i S4C ddarparu sylw ychwanegol ac eang o brif ddigwyddiadau haf Cymru.”

Mae’n wir bod rhaglenni wedi eu rhoi ar y we cyn hyn, ond hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gynnig fel gwasanaeth cyflawn gyda phob math o raglenni. Ail-frandiwyd y gwasanaeth fel S4C Clic yn nes ymlaen.

Ewch at y gofnod ar y llinell amser.

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006

Sgrinlun o wefan S4C yn Ionawr 2006

Newydd ar y llinell amser: Gorffennaf 2001 – Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Negesfwrdd y Cymru Cwl

Dechreuwyd negesfwrdd gwe Cymraeg a ddaeth yn weddol boblogaidd, resuscitator ac arweiniodd at sefydlu maes-e

Cofnod gan dafyddt

Ymweld a’r gofnod ar y llinell amser

Pori archif gwefan Cymru Cwl

 

Oes gan bobol ragor o fanylion am Cymru Cwl? Pwy wnaeth ei sefydlu? Pryd wnaeth e ddirwyn i ben? Gadwch sylw!

Newydd ar y llinell amser: Mehefin 1995 – Y Rhyngrwyd ar Raglen Uned 5

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, clinic 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, malady a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwnm nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng NGhymru i gofnodi twf y We Gymrae, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

 

Efalli bod hwn yn ffordd i chi ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.

Cymraeg ar y we

Y Rhyngrwyd ar Raglen Uned 5

Ymddangosiad cyntaf y We Gymraeg ar raglen blant Uned 5, medicine
S4C gyda Nia Elin a Keith Morris. 20 Mehefin 1995.

Cofnod gan nici_b

(Fideo ar gyfrif YouTube dafyddt)

Yr her i gofnodi hanes y We Gymraeg

firefoxMae’n rhaid nodi bod gwaith trwyadl a gwych iawn wedi cael ei wneud eisoes ar hanes cynnar y Gymraeg ar y we ac ar y rhyngrwyd. Yn bennaf oll mae erthygl gan Rhys James Jones ‘Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein. 1989-1996’ sydd wedi ei gyhoeddi yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, sildenafil 7 (2010).

Mae erthygl Rhys yn mynd i lawer o fanylder gyda enghreifftiau gwych gan osod y safon ar gyfer haneswyr eraill y Gymraeg ar-lein. Mi fuaswn i’n argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i gael gafael ar gopi.

Mae erthgyl Rhys hefyd yn gosod her i haneswyr y cyfnod cyfoes:

“[…] mae yna stori i’w hadrodd am dwf cynnar y We yng Nghymru, a’r ffyrdd y gwnaeth y cynnydd yn y niferoedd ar-lein ddechrau effeithio ar sefydliadau a diwylliant y wlad a’i hiaith. Hyd eithaf gwybodaeth yr awdur hwn nid yw’r stori honno wedi ei hadrodd eto. Dyma her, felly, i haneswyr y cyfnod cyfoes yng Nghymru i gofnodi twf y We Gymraeg, ac olrhain sut yr achosodd polisi llywodraethol a brwdfrydedd defnyddwyr cyffredin iddi dyfu i fod yn rhan o fywyd bob dydd y gymuned Gymraeg.”

Jones (2010:37)

Efallai bod hwn yn ffordd i chi, i ni fel defnyddwyr y we, ymateb i’r her hwnnw.

Mae erthygl Rhys hefyd yn cyfeirio at erthygl ‘Connecting Wales: the internet and national identity‘, gan Hugh Mackay a Tony Powell yn B.D. Loader (Gol.), Cyberspace Divide: Equality, Agency and Policy in the Information Society (Llundain, 1998); yn ogystal ag erthgyl Grahame Davies ‘Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd’ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 1 (2004) sydd yn sôn am ddechrau gwefan BBC Cymru Wales. Mae Dafydd Tomos yn ogystal wedi dechrau casglu darnau o hanes cynnar defnydd y Gymraeg ar Rhwyd.org. Yn ogystal, mae erthgyl gradd ddiddorol iawn gan Robert Andrews o tua 1998/99 o’r enw ‘Pobl y Net: What Happens to Welsh National Identity in the New Global Media Community’.

Dyw hwn ddim am fod yn hanes academaidd, ond yn fwy o hanes torfol fydd yn cael ei liwio gan atgofion pobol o gyfnod y buon nhw’n defnyddio’r technolegau hyn. Ni fydd cyfeirnodau na thystiolaeth yn aml, ac efallai bydd dyddiadau ac ati’n anghywir, ond mi fydd gobeithio yn ffordd hwyl yn y pen draw o gyflwyno a dargnafod pethau newydd am ddefnydd y Gymraeg ar y we a gosod sail i eraill balu’n ddyfnach.