Beth nesaf i brosiect hanes y we Gymraeg?

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Mae’r ymateb wedi bod yn wych, a’r llinell amser yn adnodd ardderchog ar gyfer cael cip ar ddatblygiadau pob math o agweddau ar fywyd Cymraeg ar y we.

Ond beth nesaf?

Parhau i gofnodi?

Rydw i fel ymchwilydd am orffen y bennod ar y prosiect hwn o fewn yr wythnosau nesaf, ond er mwyn gallu gwneud hynny dwi wedi cau’r llinell amser.

Cododd Mei Gwilym bwynt da i mi ar ebost sef sut mae cofnodi hanes y we yn y blynyddoedd i ddod, ac ydi’r llwyfan hwn yn gallu bod yn lle da i wneud hynny?

Un syniad gododd o’r sgwrs yna ydi y gellid cael pleidlais ar ddiwedd pob blwyddyn ar beth i’w ychwanegu am y flwyddyn a fu. Byddai’n ffordd dda o gasglu deunydd a thynnu sylw at yr hanes sydd wedi ei gofnodi’n barod, ond byddai hefyd yn ffordd dda o dynnu sylw at brosiectau gwe Cymraeg heb orfod gwneud seremoni wobrwyo. Mi allai Hacio’r Iaith fod yn ganolbwynt da i hynny yn sicr.

Neu oes angen cyfle i ail-agor golygu’r llinell amser eto rhyw bryd a bod hynny’n ffordd o gofnodi?

Beth fyddech chi’n awgrymu fyddai’n ffyrdd da o gyfeothogi’r adnodd yn y dyfodol gan lenwi rhagor o’r bylchau sydd yn codi o wneud y gwaith hwn?

Ailosod yr her i haneswyr

Digwyddodd y prosiect yma’n rhannol fel ymateb i her Rhys Jones i geisio cofnodi mwy o’r hanes ôl-1996, ond wrth gwrs, crafu’r arwyneb wnaiff yr hyn a geir yma a byddai’n werthfawr iawn wrth geisio deall lle rydyn ni nawr, i gael rhagor o ymchwil i fentro’n ddyfnach mewn i agweddau a chyfnodau penodol o’r hanes diweddar a’r effaith cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd y mae defnydd y Gymraeg wedi ei gael (neu ddim!).

Beth amdani?

Ymestyn dechrau’r llinell amser i 1989

Dwi wedi penderfynu ymestyn dechrau’r llinell amser i gynnwys beth mae Rhys Jones yn ystyried yn eni trafodaethau Cymraeg ar-lein, sef y neges Gymraeg gyntaf sydd wedi ei chadw yn archifau Google o drafodaethau Usenet.

NEGES GYMRAEG GYNTAF AR USENET

Yn ôl ymchwil Rhys Jones ar ddechreuadau’r Gymraeg arlein, y neges gyntaf Gymraeg sy’n bosib ei darganfod drwy archifau Google erbyn hyn yw’r neges hon gan Rennie Bidgood o AT&T Bell Labs: “I need someone to help me translate the following: Yn nwfn swyn ei fynwes O Caf lonydd caf le i…

Dyma sut mae Rhys Jones yn disgrifio Usenet a geni trafodaethau Cymraeg ar-lein:

“Ceid gogwydd Americanaidd i’r trafodaethau cynnar hefyd. Nifer fechan o brifysgolion a sefydliadau ymchwil oedd â chysylltiad ag Usenet yn y Deyrnas Unedig, ac ychydig iawn o rwydweithiau preifat oeddyn cynnig cysylltiad ag Usenet i ddefnyddwyr cartref neu fusnes. […] Ystyrir Usenet gan Marc Smith yn ‘collection of cyberspaces’, disgrifiad sy’n pwysleisio pa mor unigryw yw pob un o’r grwpiau newyddion, ac yn y dirwedd hon y ganwyd trafodaethau Cymraeg ar-lein.”

Cyfeirnod:

Jones, R.J., (2010). ‘Cilfachau Electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996′ yn Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, Cyfrol 7. Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd.

Onid oes rhywbeth ysgytwol yn y gwrthgyferbyniad damweiniol hwn o enedigaeth/marwolaeth a’r hen/newydd?

Mae’r englyn yn rhan o englyn ehangach gan Ben Bowen o’i awdl ‘Y Diwygiwr’ oedd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod 1901, ond gafodd “ei ddefnyddio ar gofebau rhyfel a beddfeini”.

Dyma’r englyn gyda’r ddwy linell gyntaf:

Ymdawelaf, mae dwylo Duw ei hun
Danaf ymhob cyffro;
Yn nwfn swyn ei fynwes O
Caf lonydd, caf le i huno.

Ewch i’r gofnod lawn ar y llinell amser.

150 cofnod ar linell amser Hanes y We Gymraeg!

Wrth gyrraedd 150 cofnod mae’n gyfle cystal ag unrhyw un i ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect ac am roi cymaint o ddeunydd diddorol yno. Mae wedi mynd ymhell tu hwnt i ngobeithion i ar y dechrau a dwi’n siwr bydd yn datblygu eto yn y dyfodol.

Mae’r llinell amser wedi cau i gyfraniadau newydd am y tro, ond os oes unrhywun ar dân eisiau ychwanegu rhywbeth yna dwi’n hapus i’w derbyn drwy ebost / cyfrwng arall a’u gosod nhw fy hun. Mae’r un peth yn wir am gywiriadau neu olygiadau – cysylltwch ac fe wna’i eu newid.

Cofnod wadd: Lowri Cooke ar ei phrofiadau blogio

Blog Lowri Cooke

Blog Lowri Cooke

Roedd 2012 yn flwyddyn fawr i mi: roedd gen i gyfrol ar y gweill- teithlyfr o’r enw Canllaw Bach Caerdydd, ac ro’n i’n ymwybodol mai ymateb ambell un fyddai “pwy ddiawl yw Lowri Cooke i sgwennu am brifddinas Cymru?!” Nawr, ro’n i’n gwbod yn iawn pam ges i’r comisiwn i sgrifennu’r gyfrol- yn ferch o’r ddinas, roeddwn i wedi cynhyrchu seinlun llwyddianus o’r ddinas ar gyfer BBC Radio Cymru ac wedi sgrifennu erthyglau ar Y Twll oedd wedi apelio at wasg Gomer, yn teithio’n rhyngwladol, yn nyts am Gaerdydd, ac wastad wedi teimlo bod angen canllaw chwaethus a hollol gyfoes am fy ninas. Ond sut oedd cyfathrebu hynny heb aros naw mis i gael cywasgu’r cyfan mewn datganiad bach pitw i’r wasg ar achlysur y cyhoeddi? Roedd y syniad o flog teithio/ bwyd/ celf wedi apelio ers tro-yn enwedig ar ol dychwelyd o deithiau i Efrog Newydd a Melbourne ar fy liwt fy hun gyda tua 2000 o luniau ar yr iPhone, ond doedd gen i ddim syniad sut oedd gwynebu’r fath gymhlethdod cyfoes, felly roedd yn well gen i anwybyddu’r cnonnyn bach aflonnydd hwnnw.

Fodd bynnag, ar droad 2012 nes i rywbeth dwl- nes i wrando ar fy ngreddf a chysylltu a chyfaill, yr arch- flogiwr Carl Morris, a threfnu gwers blogio yn gynnar ym mis Ionawr. Daeth draw am gwpwl o oriau un bore, ac roedd e’n amyneddgar iawn ond fe wyddwn i ym mer fy esgyrn fod y syniad o flogio’n rheolaidd y tu hwnt i mi- wedi’r cyfan, roedd gen i ddigon ar fy mhlat yn barod, gan gynnwys sgrifennu’r gyfrol! Gath e fowlen o gawl moron a choriander gen i a gawson ni glonc dros ginio cyn ffarwelio a dyma fi’n teimlo, reit, dyna fi di archwilio’r peth a dio jyst ddim i fi. Chwarae teg i Carl fe gysylltodd ymhen pythefnos a holi sut hwyl o’n i’n cael gyda’r blog. Roedd e’n gwybod yn iawn nad oeddwn i wedi gwneud dim byd am y peth gan ei fod e’n meddu ar gyfrinair Merch y Ddinas. Awgrymodd e fy mod i’n galw heibio ei gartref e yn Grangetown am refresher bach- felly es i draw gyda thec-awe o Mrs Madhavs Riverside fel diolch.

Nawr, dwi ddim yn gwbod sut, ond dros samosas a bajhis bendigedig a phaned o de, nath pethe glicio yn fy mhen, ac wrth i Carl ymarfer ei set DJ ar gyfer y penwythnos yng nghornel bella’r stafell, dechreuais i flogbostio. Yr hyn oedd o gymorth oedd fy storfa anferthol o luniau Caerdydd a gymerais i fel rhan o fy ymchwil i fy llyfr. Unwaith i mi ddechre roedd hi’n anodd stopio, ac am tua 2 y bore bu’n rhaid troi am adre. Ond ro’n i dal yn ormod o scaredy-cat i gyhoeddi’r blogiau cyntaf tan fod gen i rhyw hanner dwsin ohonynt yn barod, er mwyn i bobol gael syniad o amrywiaeth. Pan wnes i gyhoeddi’r blogiau cyntaf hynny ar Ionawr 31 2011 ges i ymateb yn syth bin, oedd yn hynod hyfryd a thu hwnt o gadarnhaol!

Fy mwriad i o’r cychwyn oedd nid dwyn oddi wrth y gyfrol ond creu ychydig o buzz, fel petawn i’n cynnig brathiadau bach a la “optional DVD extras” ac ysgrifennu mewn ffordd mwy hamddeneol. Gyda’r gyfrol, ro’n i’n sgrifennu o hyd braich, ac yn gwbl ddi-duedd; gyda’r blog, gallen i fod yn fi fy hun a mynegi fy mwrlwm/ brwdfrydedd/ boncyrsrwydd naturiol.

O fewn ychydig wythnosau daeth wefan BBC Cylchgrawn i ben- roeddwn i wedi bod yn gyfranwraig gyson ers rhyw 5 mlynedd fel adolygwraig ffilm a theatr. Ro’n i’n gutted, a dweud y lleia, na fyddai modd cyhoeddi adolygiadau o’r fath yn yr iaith Gymraeg a bum yn pendroni a ddyliwn i ddechrau ail flog yn canolbwyntio’n llwyr ar adolygiadau. Ymateb Carl i hynny, oedd “errr, Lowri, pam na wnei di jyst gyhoeddi nhw ar Merch y Ddinas?”, ac felly dyna a wnes i. Sylweddolais hefyd y gallai’r blog fod yn siop ffenest i enghreifftiau eraill o’m sgrifennu a’m diddordebau personol- fy erthyglau Celf i Barn, fy adolygiadau bwytai i gylchgrawn Red Handed, rhyseitiau coginio, a hyd yn oed blogbostiau am fy nheithio rhyngwaldol o dan y teitl “Dihangfa o’r Ddinas”.

Yr hyn sy’n bisar ydy dydw i erioed di bod yn un i ddarllen blogs: nid allan o amharch neu snobyddiaeth, does gen i wir ddim amser i wneud rhwng popeth yn fy mywyd- a coeliwch neu beidio, mae gen i fywyd y tu hwnt i’r blog! Do, fe ddipiais i fewn i ambell ffefryn fel Pictwrs flynyddoedd yn ol, a mi fydda i’n troi at Hitfix neu Roger Ebert am adolygiadau teledu/ffilm Americanaidd pan dwi’n profi darllediad dwi wir eisiau ei archwilio, ond mewn gwirionedd, mae gen i ormod ar fy mhlat fel ma hi. Yr hyn sy’n gwneud synnwyr perffaith i mi ydy pan mae pobol yn dweud wrtha i, “dwi ddim yn darllen blogs, ond dwi yn darllen Merch y Ddinas” . Dwi’n credu bod Merch y Ddinas yn gweithio fel blog achos es i ddim ati i geisio efelychu unrhywun, nes i jyst greu beth oedd yn teimlo’n hollol naturiol i mi, ac mi ddatblygodd yn organig iawn o’r cychwyn. Dydw i ddim y ffotograffydd gorau, a coeliwch neu beidio, ar adegau dwi’n dal i deimlo fel Luddite llwyr- dwi eto i wynebu rhoi fideo i fyny.

Tra’n clirio fy hen stafell wely yng nghartre fy rhieni’n ddiweddar, nes i luchio miloedd o gylchgronau o gyfnod fy arddegau- o Premiere, Empire, Sky, The Face, Elle, Vogue, Harpers Bazaar, The Clothes Show ac ati (ac ati), a dwi’n meddwl, rhywle dros y blynydoedd mae na olygydd cylchgrawn wedi bod yn llechu tu fewn- a dwi’n meddwl bod fy mlog yn debcach i gylchgrawn amrywiol ar-lein na “dyddiadur” un pwnc yn unig.

Mae nifer wedi holi ers y cychwyn, “why don’t you blog in English too?” ac i fod yn hollol onest, tasen i’n cael fy nhalu i wneud , mi fydden i’n gwneud yn llawen. Fel mae pethe, ma mywyd i’n bonkers o brysur, a dwi’n sgrifennu yn y Gymraeg am zero dineros oherwydd dwi’n teimlo bod RHAID i rywun wneud- yn enwedig ers diflaniad wefan fel BBC Cylchgrawn, ond yn bwysicach, am fy mod i EISIAU gwneud.

Nawr, tasen i’n syrthio’n feichiog yfory ac yn darganfod mod i’n disgwyl trilliaid, mae’n bur debyg y bydde’n i’n blogio ar raddfa gryn dipyn llai ymhen naw mis. Wedi dweud hynny, mae na le i flog yn y Gymraeg am wynebu’r her o fagu trilliaid- ond falle y bydden i’n dewis amrywio’r blog rhyw fymryn gyda’r ryseitiau sy’n taro deuddeg gyda Mafon Mefus a Moronen Cooke neu adolygiad o sesiwn ffilm Carry On Screaming i rieni a phlantos, neu’r lle gorau yng Nghaerdydd i weini babyccinos. Pwy a wyr… rwy’n datgan fy hawlfraint ar y syniad hwnnw! Ond dwi’n gwbod tra y bydda i’n dal i esblygu yna dyna fydd hanes Merch y Ddinas fyd. Felly daliwch ati i ddarllen os oes da chi bum munud sbar dros baned.

Dyfyniad diddorol o Wales on the Web (2005) gan Andrew Green

Mae Wales on the Web yn lyfryn bach sydd yn ceisio sôn am gynnwys unigryw Cymreig ar y we a lle oedd yr anghenion am ymyrryd er mwyn gwella natur, safon a chyrhaeddiad cynnwys Cymreig ar y we.

Dyma oedd ganddo i’w ddweud am gynnwys Cymraeg:

“Finally in this section it is worth looking briefly at the role of the internet in giving a virtual voice to the Welsh language. There is no better example of the global dominance of the English language than the Web. If the Welsh language is to survive and thrive, it must do so on all recording media, not only the traditional ones such as print and broadcasting. A weakness of the Assembly Government’s strategy for the future of the Welsh language, Iaith Pawb, is that it is very cautious about measures to promote the Welsh language and its use on the internet. A recent strategy document by the Welsh Language Board, Information technology and the Welsh language, begins to fill this gap, though it concentrates on technologies rather than content.”

Green, A. (2005) Wales on the Web. IWA: The Gregynog Papers. (tt.25)

Ar wahân i Golwg360, pa mor bell mae’r pendil wedi symud at ganolbwyntio ar gynnwys yn hytrach na’r dechnoleg?

Diwrnod olaf i gyfrannu at y llinell amser…

Cyntaf yn y Gymraeg!

Cyntaf yn y Gymraeg!

Roedd yn fwriad o’r cychwyn i greu y prosiect yn un torfol ond un gyda ffiniau amser pendant. Un wers dwi wedi ei ddysgu o brosiectau torfol eraill ydi bod cael cyfnod pendant ar gyfer y torfoli yn llawer mwy effeithiol nac un penagored. Yn yr achos hwn, mae hynny i’w weld wedi bod yn wir hefyd, a dwi’n andros o falch ei fod wedi rhoi dyddiad i bobol weithio tuag ato i gasglu gwybodaeth oedd efallai wedi ei wasgaur cynt.

Mae’n rhaid rhoi clod i dîm gwe BBC Cymru, presennol a gorffennol, am dynnu at ei gilydd a rhoi eu llinell amser nhw at ei gilydd. Mae nifer fawr o gofnodion wedi cael eu hychwanegu ddoe, ond mae’n bosib y cawn ni hefyd gofnod blog estynedig sydd yn rhoi gwybodaeth fanylach eto o’u cyfraniad nhw at y Gymraeg arlein.

Mae yma hefyd gofnodion newydd gan y Coleg Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru a bydd rhai gan y Llyfrgell Genedlaethol erbyn diwedd heddiw. Diolch mawr i bawb sydd wedi gweld gwerth mewn ychwanegu, cywiro, a thrafod.

Os oes unrhyw sefydliad eisiau ysgrifennu cofnod lawnach ar y blog hefyd yna mae croeso i chi wneud. Cysylltwch â fi yn y sylwadau, ar Twitter neu ebost.

Wedi’r dyddiad cau bydda i’n allforio copiau o’r llinell ac yn eu cynnig fel ffeil Word, PDF, cronfa ddata CSV ar y wefan hon fel y gall pawb ail-ddefnyddio ac ail-gymysgu fel rydych chi eisiau. Efallai bydd modd hefyd eu cyhoeddi mewn print mewn rhyw fodd. Unrhyw awgrymiadau ar sut fyddai orau?

Cwestiwn arall sydd wedi codi heddiw hefyd: a fyddai gwerth cyfieithu’r llinell i’r Saesneg?

Byddai’n ardderchog gallu rhannu ein stori fechan ni gyda’r byd, yn bydde…

Cyflwyniad am y prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol – sleidiau

Mi roddais i ddarlith awr-ginio ddoe yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, yn seiliedig ar rai canfyddiadau sy’n codi i fi o’r prosiect hwn. Mi gefais groeso yno a dwi’n gobeithio bod y cyflwyniad wedi bod rhoi rhyw fath o snapshot o weithgareddau 20 mlynedd a mwy o ddefnydd y gymraeg ar y we. Mae hynny’n lot o amser a lot o hanes, ac fel gyda’r llinell mae yna rybudd iechyd nad yw hwn yn hollol ddiffiniol, bod posibiliad o feithiau heb dystiolaeth lawn eto, a bod peryg o fod yn llawer rhy arwynebol.

Wedi dweud hynny, mae’n werth dechrau rhywle ac mi o’n i’n awyddus i weld os oedd na batrymau, themau neu gyfnodau’n codi o edrych ar y llinell amser ar ei hyd.

Mi gafodd fideo ohono ei recordio gan y Llyfrgell a dwi’n gobeithio y bydd y recordiad llawn ar gael yn fuan er mwyn bod y sleidiau yma’n gwneud synnwyr. Fel y mae’n nhw, does dim lot o wybodaeth heblaw am strwythr y ddarlith, ond meddwl y dylwn eu rhoi arlein beth bynnag.

Cyrraedd y nod! 100 cofnod ar y llinell amser

Heddiw, aeth y nifer o gofnodion ar y llinell amser dros y 100.

Cofnod am fideo YouTube Genod Droog yn cyrraedd dros 50,000 o wyliadau oedd y 100fed. Dyma’r fideo i chi:

 

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n uniongyrchol i’r llinell, neu sydd wedi rhoi gwybodaeth drwy ebost, FB, Twitter a Hacio’r Iaith. Dwi’n eithaf balch bod cymaint yno a dweud y gwir, ond dwi’n sylweddoli o weld beth sydd yna, cymaint sydd hefyd ar goll.

Pa faesydd ddylai gael sylw yn yr wythnos olaf?

Beth am wefannau a phrosiectau gwe’r sector gyhoeddus a’r sector wirfoddol?

Mae ambell un yno am Y Cynulliad ond prin yw’r rhai mwy lleol neu arbenigol. Mae ‘na lawer stori fan honno hefyd.

Beth am wefannau rhaglenni teledu penodol S4C?

Beth yw’r gwefannau sydd wedi bod yn rhai arloesol, arywddocaol neu lot o hwyl i’w defnyddio?

Beth am wefannau i ddysgwyr Cymraeg?

Beth arall?